Y Bencampwriaeth: Blackburn Rovers 1-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Roedd yna siom i'r Elyrch ddydd Sadwrn wrth i Blackburn Rovers sgorio yn y munudau olaf.
Abertawe oedd yn chwarae orau yn yr hanner cyntaf, ond ni lwyddodd yr Elyrch i fanteisio ar eu cryfder. Daeth sawl cyfle ond neb yn llwyddo i rwydo.
Roedd Blackburn wedi deffro dipyn yn yr ail hanner ac amddiffyn Abertawe yn gorfod gweithio yn galetach wrth i'r gêm bendilio o un pen o'r cae i'r llall.
Ond er y cyfleon doedd na'r un gôl.
Mae Abertawe wedi ildio gôl hwyr yn aml iawn y tymor hwn ac fe ddigwyddodd eto.
Ddwy funud cyn diwedd y gêm fe ddaeth croesiad o gornel y blwch cosb ac fe beniodd Daniel Ayala yn rymus gan roi'r tîm cartref ar y blaen.
Yn yr ychydig funudau olaf roedd cyfle i Abertawe, ond heb lwyddiant, ac felly colli yn y munudau olaf oedd hi i'r Elyrch unwaith eto.