Y Gynghrair Genedlaethol: Aldershot 3-4 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Sam DalbyFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Sam Dalby yn sicrhau buddugoliaeth i Wrecsam ar ddiwedd y gêm

Fe wnaeth Wrecsam gipio triphwynt hynod werthfawr yn y munudau olaf yn erbyn Aldershot brynhawn Sadwrn.

Ar ôl dim ond chwe munud fe wnaeth Haji Mnoga, cefnwr chwith Aldershot, ildio cic o'r smotyn a doedd dim amheuaeth na fyddai Paul Mullin yn rhoi Wrecsam ar y blaen.

Wedi dechrau annisgwyl o rwydd i'r Dreigiau aeth Wrecsam ar y blaen ymhellach ymhen 20 munud gydag ail gôl i Mullin - peniad y tro hwn.

Ond doedd Aldershot ddim am ildio a chyn pen hanner awr fel rwydodd y tîm cartref drwy y cefnwr canol Oliver Pendlebury.

Ateb Wrecsam oedd gôl arall gyda chroesiad perffaith gan James Jones at draed Mullin - yn swyddogol Corey Jordan oedd wedi gwthio'r bêl i'w rwyd ei hun wrth geisio amddiffyn ond roedd Mullin yn hawlio'r gôl hefyd.

Ymateb Aldershot i hynny oedd sgorio pumed gôl yr hanner cyntaf gyda Jacob Hutchinson yn rhwydo i'r tîm cartref.

Roedd yr ail hanner yn dawel iawn i gymharu gyda'r hanner cyntaf ac fe gafodd Aldershot sawl cyfle ond gyda dwy funud i fynd fe unionodd Jordan Tunnicliffe y sgôr gyda phêl yn ei rwyd ei hun.

Roedd hi'n edrych fel petai Wrecsam wedi colli dau bwynt ond gyda phum munud wedi mynd dros y 90 munud fe rwydodd Sam Dalby i Wrecsam.

Y Dreigiau felly a gipiodd y triphwynt ac maen nhw'n parhau i cystadlu yn frwd yn erbyn Notts County am y man uchaf yn y tabl.