Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Scarlets 42-14 Caeredin
- Cyhoeddwyd
Roedd yna fuddugoliaeth ysgubol i'r Scarlets adref yn erbyn Caeredin nos Sadwrn a hynny wrth iddyn nhw sgorio cais ar ôl cais.
Y sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf oedd 21-7 wedi ceisiau gan Ryan Conbeer, Vaea Fifita a Steff Evans a throsi llwyddiannus gan Sam Costelow.
Murray McCallum a sgoriodd y cais i Gaeredin gyda Charlie Savala yn trosi.
Wedi hanner awr roedd hi'n edrych yn debygol bod Sam Louisi wedi croesi hefyd i'r tîm cartref ond ni chafodd y cais ei ganiatáu ac ychydig cyn hynny methu wnaeth cic gosb Sam Costelow.
Ond wnaeth hynny ddim amharu ar y chwarae.
Ddechrau'r ail hanner roedd yna gais arall a phwynt bonws wrth i Ryan Conbeer groesi eto ac yn sgil anaf Sam Costelow, Dan Jones oedd yn cicio ac fe drosodd yn llwyddiannus (28-7).
Roedd y Scarlets ar dân a funudau wedyn dyma Vaea Fifita yn rasio at y llinell gais gan basio'r bêl i Gareth Davies i sgorio ac wedi trosiad llwyddiannus arall roedd y sgôr yn 35-7.
Roedd yna wobr gysur i Gaeredin cyn diwedd y gêm wedi cais gan Boan Venter (35-14) ond fel ymateb i hynny fe wnaeth y Scarlets sgorio eto - y tro hwn Eddie James a groesodd.
Y sgôr terfynol y Scarlets 42-14 Caeredin.