Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Caerdydd 30-13 Benetton
- Cyhoeddwyd
Roedd yna fuddugoliaeth i dîm Rygbi Caerdydd nos Sadwrn wedi iddyn nhw drechu Benetton o 30-13 a sicrhau pwynt bonws,
Dau gais gan Owen Lane, sgôr pellach gan James Ratti a 15 pwynt Ben Thomas a seliodd y fuddugoliaeth.
Rhyno Smith a Marco Zanon sgoriodd i'r ymwelwyr a bu'n rhaid i Tomas Albornoz adael y cae.
Mae Caerdydd bellach yn nawfed yn y tabl gyda phedair gêm yn weddill. Mae nhw'n gobeithio gorffen ymhlith yr wyth uchaf.