Cân i Gymru 2023: Pwy sydd yn cystadlu eleni

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Trystan Ellis-Morris a Elin Flfur, cyflwynwyr Cân i GymruFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Trystan Ellis-Morris a Elin Fflur, cyflwynwyr Cân i Gymru

Mae'r amser wedi dod i ryddhau enwau cystadleuwyr Cân i Gymru 2023.

Ar nos Wener 3 Mawrth mae hi'n cael ei chynnal eleni gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno'r gystadleuaeth fawreddog o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth unwaith eto.

Roedd y panel o arbenigwyr wnaeth ddewis yr wyth yn cynnwys Eädyth, Gwyneth Glyn, Arfon Wyn, ac Ifan Davies.

Felly pwy fydd yn brwydro am y wobr werth £5000 eleni?

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Rhydian Meilir oedd enillydd Cân i Gymru 2022 gyda'r gân Mae yna Le

1. Patagonia

Cyfansoddi: Alistair James

Perfformio: Dylan Morris

Cafodd Alistair James ei fagu yn Llanfairfechan, ac mae o bellach yn byw yng Nghonwy. Mae'n cyflwyno rhaglen frecwast ar Capital FM Cymru ac wedi bod yn perfformio'n gyson ers rhyddhau ei albwm cyntaf yn 2005.

Dyma'r trydydd tro iddo gystadlu ar Cân i Gymru (2008 a 2020) ond y flwyddyn gyntaf iddo gymryd rhan fel cyfansoddwr yn unig. Cafodd ei ysbrydoli ar ôl darllen am hanes Patagonia a rhestr o enwau pobl o'r gogledd yn mynd â'r Gymraeg i ben draw'r byd.

2. Y Wennol

Cyfansoddi a pherfformio: Siôn a Liam Rickard (Lo-fi Jones)

Mi fyddwch yn siŵr o gofio Siôn Rickard ar Gân i Gymru llynedd gyda'r gân 'Rhiannon'.

Erbyn hyn mae yntau a'i frawd o Fetws y Coed wedi sefydlu'r band Lo-fi Jones ac yn credu eu bod yn creu cerddoriaerth gwell drwy gydweithio. Atgofion o symlrwydd bywyd ieuenctid a byd natur yw'r ysbrydoliaeth tu ôl i'r gân.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Y tlws

3. Melys

Cyfansoddi a pherfformio: Luke Clement, Daniel Davies, Dafydd Mills, Tomos Mills (The Night School)

Dyma aelodau band roc The Night School o Abertawe. Penderfynodd y pedwar ar yr enw gan eu bod i gyd wedi cael profiadau'n gweithio fel athrawon. Dechreuodd y band yn 2016 ac mi fydd eu halbwm cyntaf o'r enw 'Dianc' yn cael ei ryddhau yn 2023.

4. Cân i Mam

Cyfansoddi a pherfformio: Huw Owen

Mi fydd llawer yn gyfarwydd â Huw Owen fel cyflwynydd Cyw ar S4C. Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan fawr o'i fywyd erioed ond dyma'r tro cyntaf iddo gystadlu yng Nghân i Gymru.

Symudodd yn ôl i'w gartref yn Llanberis yn ddiweddar ac ysgrifennodd y gân am frwydr ei fam gyda chanser.

5. Chdi Sy'n Mynd I Wneud Y Byd Yn Well

Cyfansoddi: Dafydd Dabson

Perfformio: Bryn Hughes Williams

Daw Dafydd Dabson yn wreiddiol o Ben Llŷn ac erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd. Mi wnaeth o gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2018 gyda'r gân "Dwi'm Yn Dy Nabod Di".

Mae ganddo ddau brosiect ar hyn o bryd, sef Codewalkers yn Saesneg a Derw yn Gymraeg ac mae'r gân 'Chdi Sy'n Mynd I Wneud Y Byd Yn Well' yn gân obeithiol am y dyfodol ac am newid hinsawdd.

6. Cysgu

Cyfansoddi: Alun Tan Lan

Perfformio: Angharad Elfyn, Elliw Jones a Siwan Iorwerth o'r grŵp Tant

Mae Alun Tan Lan o Landdoged ger Llanrwst yn hen ben ar gystadlu ar Cân i Gymru. Enillodd y gystadleuaeth yn 2010 a pherfformiodd yn 2013 a 2016 sy'n golygu ei fod yn cystadlu am y pedwerydd tro iddo eleni.

Mae o wedi bod yn aelod o'r band Y Niwl ers 2009. Ysbrydoliaeth fwyaf y gân 'Cysgu' yw myfyrdod ac edrych yn ôl ar sut oedd pethau mewn bywyd wrth symud ymlaen.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Morgan Elwy yn ennill Cân i Gymru 2021 gyda Bach O Hwne

7. Eiliadau

Cyfansoddi a pherfformio: Ynyr Llwyd

Cafodd Ynyr Llwyd ei fagu ym Mhrion, pentref bach tu allan i Ddinbych, a bellach yn byw ym Modelwyddan. Mae'n gweithio fel Pennaeth Cerddoriaeth yn Ysgol Uwchradd Maes Garmon, ac yn dal i fwynhau cyfansoddi a pherfformio ei ganeuon ei hun.

Mae wedi cystadlu o'r blaen, ond dyma'r tro cyntaf iddo gyrraedd yr wyth olaf yn y gystadleuaeth. Thema'r gân yw hiraethu am blentyndod a gorchfygu teimladau negyddol.

8. Tangnefedd

Cyfansoddi a pherfformio: Sera Zyborska a Eve Goodman

Daw Sera Zyborska ac Eve Goodman yn wreiddiol o Gaernarfon. Mae Sera bellach yn byw yn Llanfairpwll yn gweithio i'r gymuned leol ac yn rhedeg gweithdai cerdd i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae Eve yn byw yn Y Felinheli ac yn gweithio'n llawn amser fel cyfansoddwr a pherfformiwr. Cafodd y ddwy eu dewis i fod yn rhan o brosiect Gorwelion BBC Cymru yn 2019 ac ers hynny maen nhw wedi bod yn ysgrifennu gyda'i gilydd. Mae natur yn ysbrydoliaeth fawr i 'Tangnefedd'.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig