Morgan Elwy Williams yn ennill Cân i Gymru 2021

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Can i GymruFfynhonnell y llun, S4C

Y gân Bach o Hwne gan Morgan Elwy Williams yw enillydd Cân i Gymru 2021.

Cafodd y gân ei dewis yn enillydd trwy bleidlais gyhoeddus fyw gan wylwyr y rhaglen Cân i Gymru 2021 ar S4C o lwyfan Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Caerdydd.

Mae Morgan yn 25 oed ac yn wreiddiol o Dan-y-fron ger Llansannan, ond yn byw yng Ngogledd Llundain ers 2019.

Ar ôl gadael yr ysgol, mi aeth i Fanceinion i wneud gradd mewn Ffiseg, a bellach mae'n athro Ffiseg rhan amser mewn Ysgol Uwchradd yn Llundain.

Y llynedd yn y cyfnod clo bu'n recordio ei albwm newydd. Mae'n gobeithio bydd yr albwm allan ym mis Ebrill eleni.

'Golygu'r byd i fi'

Dywedodd Morgan: "Mae hyn yn golygu'r byd i mi, a diolch i bawb am gefnogi. A diolch i'r band hefyd - mae hyn yn anhygoel yn enwedig ar ôl blwyddyn fel llynedd."

Mae Morgan yn ennill tlws Cân i Gymru 2021 a'r wobr o £5,000.

Fel Hyn Mae Byw gan Huw Ynyr oedd y gân a gipiodd yr ail a gwobr o £2,000 a Siarad yn fy Nghwsg gan Melda Lois Griffith oedd yn drydydd ac yn cipio gwobr o £1,000.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Gruffydd Wyn ddaeth i'r brif yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2020

'Mwy sbeshal eleni'

Y cyflwynwyr oedd Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur.

Disgrifiad o’r llun,

Mae wedi bod yn gyfnod anodd i gyfansoddwyr a pherfformwyr, medd Elin Fflur

Cyn y gystadleuaeth dywedodd Elin: "Dwi wrth fy modd fod Cân i Gymru yn ôl unwaith eto eleni. Mae'r gystadleuaeth hon wedi bod yn agos at fy nghalon erioed, ond mae gallu ei chynnal eleni yn fwy sbeshal ryw ffordd a hithau wedi bod yn gyfnod mor anodd i gyfansoddwyr ac pherfformwyr."

Y caneuon eraill oedd yn cystadlu am y wobr eleni oedd: Dwy Lath ar Wahân gan Roger Llywelyn Henderson a Siân Charlton, Y Goleuni gan Mari Elen Mathias, Yr Arlywydd gan Steve Williams, Y Bobl gan Daniel Williams, Hwyliau Llonydd hefyd gan Melda Lois Griffiths.

Mwy o fanylion am gyfansoddwyr y caneuon:

  • Huw Ynyr (Fel Hyn Mae Byw) yn 28 mlwydd oed, yn wreiddiol o Lanuwchllyn ond bellach yn byw gyda'i gariad Awel yn Nolgellau. Canwr opera proffesiynol yw Huw ond mae bellach yn gweithio gartre ar y fferm. Yn 2012 enillodd Ysgoloriaeth Bryn Terfel.

  • Roger Llywelyn Henderson a Sian Charlton (Dwy Lath ar Wahân): Mae Roger yn wreiddiol o Wrecsam ond wedi bod yn byw yn Abertawe ers hanner canrif. Mae'n byw yn Mhant-lasau gyda'i wraig Suzie ac mae ganddynt ddau o blant. Dyma'r trydydd tro i Roger gyrraedd yr wyth olaf yng nghystadleuaeth Cân i Gymru.

  • Mari Elen Mathias (Y Goleuni) yn 20 oed ac yn dod o Dalgarreg yng Ngheredigion. Ar ôl gadael Ysgol Uwchradd Bro Teifi, aeth i astudio cwrs BA perfformio yng Ngholeg Dewi Sant. Graddiodd y llynedd ac mae hi bellach yn astudio cwrs MA mewn ysgrifennu Cerddoriaeth a Chynhyrchu.

  • Steve Williams (Yr Arlywydd) wedi'i fagu yn Y Bont-faen, ond symudodd y teulu i Bowys pan oedd yn 13 oed. Am bum mlynedd fe fu'n dditectif yng Ngwynedd, cyn symud i Sir Drefaldwyn i fod yn dditectif gyda Heddlu Dyfed-Powys. Nid dyma'r tro cyntaf i Steve ymddangos yng nghystadleuaeth Cân i Gymru. Yn 2001 bu'n cystadlu gyda'r gân 'Mynegiant Rhyddid'.

  • Daniel Williams (Y Bobl) yn 26 oed ac yn dod o Bentre'r Eglwys, ger Pontypridd. Ar ôl gadael Ysgol Uwchradd Gartholwg, fe aeth i'r Brifysgol Caerdydd i wneud gradd mewn Cyfrifeg. Mae Daniel wedi chwarae'r gitâr ers blynyddoedd bellach, ond nid yw erioed wedi chware yn gyhoeddus. Dywed "bod cyrraedd rownd derfynol Cân i Gymru yn sioc fawr i'r system, oherwydd nid yw Daniel wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o'r blaen"

  • Melda Lois Griffiths (Hwyliau Llonydd a Siarad yn fy Nghwsg): Mae dau o gyfansoddiadau Lois wedi cyrraedd yr wyth olaf eleni, a hi yw'r ferch gyntaf i wneud hyn yn hanes y gystadleuaeth. Mae hi'n 27 oed ac yn wreiddiol o Lanuwchllyn, ond yn byw yng Nghaerdydd ers 2012. Mae cerddoriaeth o hyd wedi bod yn rhan o'r teulu gyda'i thad hefyd yn canu ac yn aelod o Gôr Godre'r Aran. Mae'r syniad o ennill Cân i Gymru wastad wedi bod yna'n dawel yng nghefn ei meddwl. Mae cael bod yn yr wyth olaf, yn enwedig gyda dwy o'i chyfansoddiadau yn meddwl y byd iddi.

  • Morgan Elwy Williams (Bach o Hwne) yn 25 oed ac yn wreiddiol o Dan-y-fron ger Llansannan, ond yn byw yng Ngogledd Llundain ers 2019. Mae Morgan wedi bod adre gyda'i deulu ers cyn y Nadolig. Daeth yn ôl yn arbennig i roi aren i'w chwaer oedd wedi bod yn disgwyl llawdriniaeth ers amser hir. Dywed ei "fod wedi bod yn ffodus o gael yr holl amser yn y cyfnod clo i recordio ei albwm newydd". Mae'n gobeithio bydd yr albwm allan ym mis Ebrill eleni. Mae ei frawd Jacob wedi cystadlu yng Nghân i Gymru y llynedd a'r flwyddyn cynt bu'n canu deuawd gyda Mared Williams.

Pynciau cysylltiedig