Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Munster 58-3 Gweilch
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweilch wedi cael eu cweir fwyaf erioed yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, wrth i Munster eu chwalu nhw gan sgorio naw cais heb ymateb.
Er i Stephen Myler roi'r Gweilch ar y blaen gyda chic gosb, unionwyd y sgôr o droed Joey Carbery er bod Munster i lawr i 14 dyn ar y pryd.
Roedd y tîm cartref eisoes wedi sicrhau pwynt bonws erbyn yr egwyl yn dilyn ceisiau gan Gavin Coombes, Malakai Fekitoa, Antoine Frisch, a Carberry.
Cafwyd rhagor o geisiau yn yr ail hanner gan Paddy Patterson, Coombes, Simon Zebo a Shane Daly, cyn i Coombes gwblhau ei hat-tric.
Mae'r canlyniad yn golygu bod y Gweilch yn aros yn 12fed yn y tabl o 16 tîm, gydag ond pedair buddugoliaeth mewn 12 gêm gynghrair y tymor hwn.