Cadair eisteddfod yn cyrraedd Cymru ddegawd yn hwyr
- Cyhoeddwyd
Mae bardd buddugol wedi derbyn cadair yr oedd wedi'i hennill mewn Eisteddfod ym Mhatagonia dros ddegawd yn ôl.
Nos Sul roedd digwyddiad arbennig yn Neuadd Maesywaun, ger Y Bala, i ddathlu'r ffaith fod Cadair Eisteddfod y Wladfa wedi cyrraedd cartref y bardd Gwynedd Huws Jones.
Fe wnaeth e ennill y gadair yn Hydref 2012 ond roedd 'na bob math o broblemau wrth geisio mewnforio'r gadair o'r Ariannin.
Yn y diwedd bu'n rhaid ei thorri yn ddarnau ac wedyn ei rhoi yn ôl at ei gilydd, ond yn ôl Mr Jones mae'r profiad o gael eistedd arni wedi bod yn werth y drafferth.
'Trio unwaith eto'
Gyda'r gadair bellach yn harddu cartref Gwynedd a Maureen Jones ym Maesywaun, ychydig a feddyliau'r ddau y byddai wedi cymryd yr holl flynyddoedd i'w chael yn ôl i Gymru.
Dywedodd Mr Jones, a enillodd y gadair am gerdd ar y testun 'Gwreiddiau' ei fod wedi penderfynu gwneud un ymdrech arall y llynedd i'w mewnforio wedi iddo gael nifer o broblemau.
"Mi ddaru'r wraig a fi benderfynu bod ni'n mynd i drio unwaith eto a dyma ni'n cysylltu hefo'r chwiorydd Green yn Nhrefelin.
"Chware teg iddyn nhw dyma nhw'n dod yn ôl mewn rhyw bythefnos a dweud wrthai fod Esyllt Roberts (o'r Ffôr ger Pwllheli) yn dod adref rhwng y Dolig a'r Flwyddyn Newydd a'i bod hi'n barod iawn i ddod â hi.
"Ges i air hefo Esyllt a dyma hi'n dweud ddoi â hi adref i chdi ond mae 'na amodau.
"Yr amodau oedd byddai'n rhaid ei thorri… 'neith hi ddim mynd mewn i'r cês a hefyd bydd yn rhaid i chdi ddod i'w nôl hi o Gatwick…dydw i ddim yn llusgo hi bellach na Gatwick!"
Y gwaith atgyweirio
Wedi teithio i Gatwick i'w nôl, er y "traffig dychrynllyd", o'r diwedd fe gyrhaeddodd Sir Feirionnydd yn ddiogel.
Gyda'r gadair yn ddarnau swydd y crefftwr a'r saer lleol, Iolo Puw, oedd ei rhoi'n ôl at ei gilydd yn ei weithdy ger Y Parc.
Dywedodd Iolo: "Oedd y gadair mewn cês go fawr yn ddeg darn siwr braidd… y coesau wedi torri ffwrdd a'r cefn wedi torri ffwrdd.
"Mi wnes i dowlio nhw efo dowls stainless steel a rhoi araldite arnyn nhw i'w gludo nhw nôl at ei gilydd. Oedd hi ddim yn job fawr, jyst cael tyllau'r dowls yr un cyfeiriad ar y ddau ddarn ynde."
'Noson bach i ddathlu'
Nos Sul roedd 'na groeso gan drigolion ardal Maesywaun i'r gadair, gyda chyfarfod dathlu yn y neuadd leol wedi'i drefnu gan Medwen Charles.
"Syth ddaru ni glywed bod y gadair wedi cyrraedd adref dyma fynd ati i drefnu noson bach i ddathlu," meddai Ms Charles.
"De ni wedi edrych ymlaen ers deng mlynedd i gael trefnu'r cyfarfod yma gyda pawb wedi bod yn ymarfer eu dawns, eu sgets, pobol yn barddoni a chanu.
"Oedd o'n bechod dweud y gwir iddo beidio cael y gadair adref a de ni'n falch iawn bod y gadair wedi cyrraedd a mae'n edrych yn neis iawn hefyd'.
Yn naturiol mae Gwynedd Jones wrth ei fodd o gael y gadair adref.
"Yndi mae'n cymryd ei lle yn fendigedig… rhyw ugain munud ges i i eistedd arni (yn yr Eisteddfod) a phawb yn dweud rwan bo fi'n eistedd arni drwy'r dydd ond dydwi ddim!!
"Ond o leia ga'i eistedd arni mwy nag ugain munud!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2023