Chwarae rygbi dros Y Bala... yn 67 oed

  • Cyhoeddwyd
blakoe

Mae gyrfa chwaraewr rygbi proffesiynol yn gallu bod yn gymharol fyr, gyda'r rhan fwyaf yn ymddeol yn eu 30au cynnar neu ganol. Mae eithriadau wrth gwrs, gyda chwaraewyr fel Alun Wyn Jones a Johnny Sexton sy'n dal i chwarae ar y lefel uchaf, a'r ddau yn 37 oed.

Wrth reswm, mae chwaraewyr amatur yn gallu chwarae am gyfnod hirach, ond mae Phil Blakoe o Glwb Rygbi'r Bala yn achos arbennig iawn.

Mae Phil yn 67 oed ac yn dal i chwarae fel prop i ail dîm Y Bala, yn ogystal â thimau eraill ledled y gogledd yn achlysurol.

"Nes i ddim dechrau chwarae nes o'n i'n 25, felly mae hynny rhyw 42 mlynedd yn ôl," eglurodd. "O'n i'n chwarae dros dîm cyntaf Y Rhyl am 40 mlynedd, yng Nghynghrair Gogledd Cymru yn bennaf, a phum mlynedd yng Nghynghrair Heiniken gan chwarae yn erbyn timau'r de."

Disgrifiad o’r llun,

Phil yn chwarae i'r Rhyl yn nhymor 1989-1990

"Dwi'n chwarae bob wythnos, dwi bron byth yn colli gêm. Os oes gan fy nghlwb i ddim gêm fydd 'na rywun o hyd yn cysylltu o glwb arall yn gofyn imi chwarae. Ar brydiau fydda i'n chwarae dwywaith yr wythnos - ar nos Fercher a phrynhawn Sadwrn.

"Mae 'na system ble os nad oes gan eich tîm arferol chi gêm mae posib rhoi eich enw lawr ar gofrestr rygbi gogledd Cymru, sy'n galluogi chi gael trwydded i chwarae dros dimau eraill. Ond mae gan ail dîm Y Bala gemau yn aml felly efo nhw fydda i'n chwarae dyddiau 'ma."

Disgrifiad o’r llun,

Phil yn gwisgo lliwiau'r Rhyl, ble bu'n chwarae am dros bedair degawd

Mae Phil bellach wedi ymddeol o'i waith yn gwerthu ceir. Erbyn hyn mae'n treulio llawer o'i amser yn cadw'n heini, gan redeg 5km bob diwrnod a chodi pwysau yn y gampfa.

Gêm gorfforol

Ers ei ddyddiau cynnar yn chwarae mae Phil yn credu bod rygbi wedi newid dipyn.

"Mae'r rheolau wedi newid dipyn ers i mi ddechrau chwarae.

"Roedd arfer bod mwy o wrthdaro a doedd yna ddim y busnas 'crouch, bind, set' ac ati wrth sgrymio. Roedd posib rycio go iawn yr adeg hynny, ac yna fe roedd y gwrthwynebwyr yn gwneud yr un peth i chi hefyd. Ar ddiwedd y gêm tra'n cal bath fyddech chi'n gallu gweld sut gêm oedd hi!"

Disgrifiad o’r llun,

Phil yn propio dros Y Bala

Yr her gan yr ifanc

Sut mae rhywun 67 oed yn gallu cystadlu yn y rheng flaen yn erbyn bechgyn 20-21 oed? Ydy Phil yn ffeindio hynny'n her? "Heb swnio'n ben bach," meddai, "dwi'n ffeindio hynny'n eitha' hawdd.

"Y prop anodda' imi wynebu tymor yma oedd hen ffrind i mi ddaeth 'mlaen dros Y Fflint wythnos diwethaf, Aled Davies.

"Mae Aled yn 61 oed ac yn hyfforddi gyda Chlwb Rygbi'r Fflint, ond roedd o'n arfer chwarae dros ogledd Cymru ac yn ddiawl o sgrymiwr.

"Daeth o 'mlaen am ryw 10 munud wythnos diwethaf, ac alla i ddweud yn onest mai fo yw'r prop gorau imi wynebu yn y pum neu chwe mlynedd diwetha'."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Oval Zone Rugby Mag

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Oval Zone Rugby Mag

Yn ogystal â'r Rhyl a'r Bala, mae Phil wedi chwarae dros amryw o dimau eraill, fel Llandudno a Barbariaid Gogledd Cymru.

Mae Barbariaid Gogledd Cymru'n dîm i chwaraewyr dros 35 oed, ac yn chwarae lot o gemau ar daith yn ne Cymru a gemau i elusen.

Disgrifiad o’r llun,

Phil yn chwarae dros Barbariaid Gogledd Cymru

Gan fod Phil wedi chwarae am ddegawdau mae wedi chwarae yn erbyn mwy nag un cenhedlaeth o ambell deulu.

"O'n i'n chwarae yn erbyn Nant Conwy y tymor 'ma, ac o'n i'n siarad efo boi o'r clwb dwi'n cofio chwarae yn ei erbyn 20 mlynedd nôl a mwy. 'Nath o ddweud wrtha i 'ti newydd chwarae yn erbyn fy mab i yn y rheng flaen, mae o 42 mlynedd yn iau na chdi!'"

Disgrifiad o’r llun,

Rycio am y bêl, un o hoff bethau Phil i'w wneud ar y cae rygbi

Felly, tan bryd mae Phil yn credu y gallai barhau i chwarae rygbi? "Mi fydd fy nghorff yn dweud wrtha i pryd i roi fyny", meddai Phil.

"Os dwi ddim yn mwynhau chwarae neu os dwi ddim yn cael fy newis fydda i'n gwybod bod hi'n amser i stopio. Mae'n siŵr os fyswn i ddim yn gwneud digon da fysa timau ddim dal yn gofyn imi chwarae.

"Dwi 'di bod gyda Bala ers rhyw bum mlynedd, er dydw i ddim yn gallu siarad gair o Gymraeg, sy'n gwneud hi'n anodd. Ond dwi'n hoffi y ffordd mae nhw'n chwarae ac mae nhw'n fechgyn grêt. Mae nhw i gyd yn ffermwyr ac yn chwarae'r math o rygbi corfforol dwi'n ei fwynhau."

Gyda Phil yn cael ei ddisgrifio gan un o'i gyd-chwaraewyr yn Y Bala, Dewi Morgan Pugh fel "un o'r rhai mwyaf cadarn da ni 'di'i weld yn y rheng-flaen", dydi hi ddim yn edrych fel fod gyrfa rygbi Phil Blakoe am ddod i ben yn fuan.

Hefyd o ddidordeb:

Pynciau cysylltiedig