Porthmadog: Cau canolfan hamdden wedi i ddyn farw
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan hamdden yn parhau ar gau ym Mhorthmadog wedi i ddyn farw ar ôl mynd yn sâl yno nos Lun.
Cafodd gwasanaethau brys, gan gynnwys yr Ambiwlans Awyr, eu galw i ganolfan Byw'n Iach Glaslyn tua 18:45.
Fe wnaeth staff y ganolfan roi cymorth cyntaf i'r dyn, ond bu farw'n ddiweddarach.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y ganolfan: "Mae ein meddyliau gyda'r teulu a ffrindiau ar yr adeg drist hon ac ry'n ni'n ddiolchgar i staff y ganolfan, gwasanaethau brys a'r Ambiwlans Awyr am eu hymateb sydyn a phroffesiynol."
Dywedodd y llefarydd fod y ganolfan ar gau ddydd Mawrth fel "arwydd o barch".
Fe fyddan'n ailagor ddydd Mercher, ond yn addasu eu horiau i 08:30-17:30 am weddill yr wythnos, ac yn ailagor yn llawn o ddydd Sadwrn.