Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-0 Scunthorpe

  • Cyhoeddwyd
Paul MullinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Paul Mullin oedd sgoriwr gôl agoriadol y Dreigiau wedi 24 munud

Mae'r Dreigiau yn parhau i roi pwysau ar Notts County ar y brig yn dilyn buddugoliaeth gartref yn erbyn Scunthorpe.

Un o arwyr y Cae Ras, Paul Mullin agorodd y sgorio diolch i'w ergyd wedi 24 munud.

Ond bu bron i Scunthorpe unioni'r sgor gyda 57 munud ar y cloc wrth i ymdrech Pugh o 25 llath daro'n erbyn y postyn gyda Lainton wedi ei guro yn y gôl.

Sicrhawyd y pwyntiau diolch i gic o'r smotyn gan Mullin gyda wyth munud yn weddill.

Er ddim y perfformiad disgleiriaf sydd wedi ei weld ar y Cae Ras eleni, roedd mwyafrif llethol y 9,995 oedd yno yn falch o sicrhau'r triphwynt.

Golyga canlyniadau nos Fawrth fod y Dreigiau yn parhau pum pwynt tu ôl i Notts County ond wedi chwarae dwy gêm yn llai.