Cystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn ôl
- Cyhoeddwyd
Mae cystadleuaeth Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2023 yn cael ei chynnal Ddydd Sul 5 Mawrth.
Dyma'r tro cyntaf iddi gael ei chynnal ers 2019 - hynny o ganlyniad i effaith y pandemig.
Y chwe chystadleuydd mwyaf addawol yn y categori hŷn (o dan 25 oed) a oedd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 sydd wedi cael eu dewis, a hynny gan banel o feirniaid sy'n cynnwys Bari Gwilliam, Sioned Terry, Bethan Williams-Jones a Gwenan Gibbard.
Yr unigolion hynny fydd Fflur Davies, Gwenno Morgan, Ioan Williams, Mali Elwy, Owain Rowlands a Rhydian Tiddy.
Caiff ei chynnal am 6pm yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Mae nifer o enwau adnabyddus wedi ennill y wobr ar hyd y blynyddoedd. Dyma rai ohonyn nhw.
Mirain Haf
Mirain Haf oedd enillydd cyntaf y wobr, yn ôl yn 1999.
Aeth Mirain ymlaen i astudio yn y Royal Academy of Music cyn mynd ymlaen i berfformio ar lwyfannau ar hyd a lled y wlad.
Yn fwy diweddar, mae wedi bod yn teithio dros y byd hefo'r band 9bach.
Wrth edrych yn ôl ar y profiad mewn sgwrs gyda Cymru Fyw yn 2018, dywedodd Mirain, "Y peth dwi'n gofio fwya' ydi cael amser hyfryd gefn llwyfan efo'r cystadleuwyr eraill i gyd. Doedd 'na neb yn siwr iawn beth i'w ddisgwyl, gan mai honno o'dd y flwyddyn gynta', felly mi wnaethon ni gyd drio meddwl am y peth fel cyngerdd yn hytrach na chystadleuaeth.
"Roedd ennill yn sicr yn help pan o'n i'n cyfweld am golegau drama, o ran cael enw Bryn ar y CV, ac wrth gwrs yn ariannol hefyd. Mae Bryn yn dal i fod yn gefnogol iawn"
Rakhi Singh
Enillydd 2004 oedd Rakhi Singh, yr offerynnwr cyntaf i dderbyn y wobr.
Mae'n feiolinydd llwyddiannus ers iddi gydio yn yr offeryn am y tro cyntaf yn 3 oed.
Aeth ymlaen i gyd sefydlu y Manchester Collective - prosiect siambr sydd yn mynd a cherddoriaeth y tu hwnt i ffiniau'r neuadd gyngerdd.
Dywedodd Rakhi ei bod yn gweithio i newid rhagfarn pobl am gerddoriaeth glasurol,
"Mae cerddoriaeth glasurol mor anhygoel - ond mae rhai pobl fel tasen nhw ei ofn. A dydyn ni ddim bob amser yn ei werthu yn dda iawn! Byddwn ni'n dod i Gaerdydd i deithio yn fuan, a dwi'n gyffrous iawn am hynny"
Elgan Llŷr Thomas
Tenor o Gyffordd Llandudno ydi Elgan Llŷr Thomas, enillydd y gystadleuaeth yn 2010.
Mae'n un o raddedigion yn Guildhall yn Llundain, ac yn dilyn hynny, mae wedi perfformio mewn llefydd fel Paris a Chaliffornia.
Roedd hefyd yn aelod o brosiect 'Harewood Artists' yr ENO [English National Opera], sydd yn rhoi cyfle i enwau newydd ac addawol yn y diwydiant fagu eu crefft gyda'r cwmni.
Ar hyn o bryd, mae'n gweithio gyda'r Scottish National Opera mewn cynhyrchiad o waith Puccini, Il Trittico (Gianni Schicchi).
Steffan Rhys Hughes
Un o enwau amlycaf llwyfannau eisteddfodol y degawdau diwethaf yw Steffan Rhys Hughes o gyffiniau Dinbych, enillydd gwobr 2016.
Fo oedd yn gyfrifol am gydlynnu Welsh of the West End, grŵp o gantorion amlwg sydd wedi bod yn gweithio ar lwyfannau Llundain. Fe roddodd nifer o fideos ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y pandemig, wrth i'w sioeau gael eu gohirio, a penderfynodd y grŵp barhau i ganu gan ymddangos ar gystadleuaeth Britain's Got Talent yn 2022.
Rhestr Llawn
1999 - Mirain Haf
2000 - Fflur Wyn
2002 - Rhian Mair Lewis
2003 - Aled Pedrick
2004 - Rakhi Singh
2005 - Lowri Walton
2006 - Rhys Taylor
2007 - Manon Wyn Williams
2008 - Rhian Lois Evans
2009 - Catrin Angharad Roberts
2010 - Elgan Llyr Thomas
2011 - Glain Dafydd
2012 - Huw Ynyr Evans
2013 - Chloe-Angharad Bradshaw
2014 - Enlli Parri
2015 - Gwen Elin
2016 - Steffan Rhys Hughes
2017 - Cedron Siôn
2018 - Epsie Thompson
2019 - Rhydian Jenkins
Hefyd o ddiddordeb: