Cwest: Cerddwr wedi cwympo dros 300 troedfedd ar Eryri
- Cyhoeddwyd
Bu farw myfyriwr 18 oed ar ôl disgyn dros 300 troedfedd wedi iddo ef a'i dad golli eu ffordd ar lwybr serth wrth ddringo'r Wyddfa.
Clywodd cwest yng Nghaernarfon bod Christopher Wilson o Brixham yn Nyfnaint a'i dad wedi dringo i frig Crib Goch, ac wedi bwriadu cerdded y copa nesaf sef Garnedd Ugain.
Ond mae'n ymddangos bod y ddau wedi mynd ar hyd llwybr cul peryglus a bod y myfyriwr wedi llithro.
Rhybuddiodd Elfyn Jones o dîm achub mynydd Llanberis y gall "trip syml neu lithriad arwain at ganlyniadau difrifol".
"Mae'r llwybr geifr yn un o sawl llwybr sy'n arwain oddi ar gopa Crib Goch ac yn un y gall cerddwyr ei gamgymryd am lwybr cerdded," meddai.
Diddordeb cerdded mynydd
Wrth gofnodi, dywedodd y crwner Sarah Riley bod Christopher Wilson wedi marw o ganlyniad i ddamwain ar Grib y Ddysgl ar 26 Gorffennaf 2021.
Nododd ei fod wedi gwisgo'n addas ar gyfer ei daith a'i bod yn debygol ei fod e a'i dad wedi cerdded ar "lwybr geifr" ar hyd tirwedd serth agored.
"Fe syrthiodd gan ddisgyn dros 100 metr gan ddioddef anafiadau nad oedd modd eu goresgyn," meddai.
Dywedodd ei fam bod ei mab, a oedd yn astudio i hyfforddi chwaraeon, am fod yn hyfforddwr pêl-droed a bod ganddo ddiddordeb mewn cerdded mynyddoedd.
Roedd e a'i dad wedi gwersylla yn Eryri ddiwrnod cyn y ddamwain.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2021