Galw ar i gartref y Beasleys fod yn ganolfan ddiwylliannol

  • Cyhoeddwyd
LlangennechFfynhonnell y llun, BJP Residential, Llandeilo
Disgrifiad o’r llun,

Mae hen fwthyn dwy ystafell wely Trefor ac Eileen Beasley bellach ar werth am £140,000

Wrth i gartref yr ymgyrchwyr iaith Trefor ac Eileen Beasley yn Llangennech gael ei werthu, mae rhai yn galw am droi'r adeilad yn ganolfan ddiwylliannol er mwyn addysgu pobl a phlant am frwydrau iaith y gorffennol a'r presennol.

Cafodd plac glas ei osod ar y bwthyn, a fu'n gartref i'r Beasleys rhwng 1952 a 1964, yn 2015 gan Treftadaeth Cymuned Llanelli.

Mae'r bwthyn dwy ystafell wely bellach ar werth am £140,000, ac yn ôl yr arwerthwyr BJP Residential yn Llandeilo mae cryn ddiddordeb wedi bod hyd yma.

Tan 1960 bu'r Beasleys yn brwydro i gael ffurflen dreth ddwyieithog gan Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli.

Fe fuodd y ddau yn y llys 16 o weithiau ac ymwelodd y beilïaid â'u cartref bedair gwaith, gan fynd â'r rhan fwyaf o'u dodrefn o'r tŷ.

Ar ôl wyth mlynedd o ymgyrchu fe enillon nhw eu brwydr ac fe dderbynion nhw bapur treth dwyieithog yn 1960.

Un o'r rhai sydd wedi galw ar y cyfryngau cymdeithasol am gael canolfan ddiwylliannol yn 2 Yr Allt, Llangennech yw Elin Maher.

Disgrifiad o’r llun,

Bu Eileen a Trefor Beasley yn y llys 16 o weithiau yn ystod eu brwydr

Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Ms Maher mai ceisio ysbrydoli trafodaeth oedd hi wrth iddi weld y tŷ ar werth.

"Gweld cyfle o'n i ddweud y gwir, a meddwl y byddai'n syniad da petai cartref pobl a wnaeth gymaint dros yr iaith Gymraeg yn ganolfan ddiwylliannol," meddai.

"Mae mor bwysig atgoffa pobl o'r brwydrau sydd wedi bod a hefyd brwydrau'r presennol hefyd. Ry'n ni'n gallu cymryd brwydrau'r iaith yn ganiataol.

"Yn sgil ffigyrau'r cyfrifiad diweddar dwi'n teimlo bod angen y canolfannau yma fwy nag erioed."

Ffynhonnell y llun, Treftadaeth Cymuned Llanelli
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd plac glas ei osod ar y bwthyn yn 2015 gan Treftadaeth Cymuned Llanelli

Ychwanegodd Ms Maher: "Mae 'na blac glas yna wrth gwrs ond mae angen rhywbeth mwy na hynny.

"Mae mor bwysig bod plant ysgol, yn enwedig, yn cael eu trochi yn hanesion brwydr yr iaith.

"Oni fyddai'n braf creu atyniad tebyg i'r Ysgwrn, cartref Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd?

"O ran ariannu, fe fyddai'n rhaid ymchwilio i hynna ond mae'n gyfle anferthol yn dyw e? Fe allai'r gymuned leol neu fusnesau ei berchnogi.

"Mae cymunedau bellach yn prynu tafarndai. Yr hyn fyddai'n bwysig yw darparu gweledigaeth hirdymor."

'Cael gofod yn y ganolfan yn fuddiol iawn'

Ar ran Menter Cwm Gwendraeth Elli dywedodd y prif swyddog Alaw Davies: "Mae hanes y Beasleys wedi bod yn rhan o brosiect Hanesion Llanelli sydd wedi bod yn cael eu cynnal mewn ysgolion cynradd yn Llanelli, felly mae'r drafodaeth yn amserol dros ben.

"Gan bod yr ysgolion wedi cael sesiwn penodol a chreu podlediad am hanes y Beasleys, byddai ymweld â'u cartref yn codi mwy o ymwybyddiaeth am hanes lleol.

"Hefyd, mae'r hanes a'r cartref yn clymu mewn gyda nodweddion o'r cwricwlwm newydd.

"Dwi'n credu bod hi'n werth nodi ein bod ni fel Menter Iaith yn chwilio am leoliad yn Llanelli a byddai gallu bod yn rhan o'r prosiect a chael gofod yn y ganolfan, petai'r ymgyrch yn llwyddo, yn fuddiol iawn i ni fel cwmni ac i'r ardal.

"Mae'r cyfan yn dibynnu ar y costau ond efallai y gallai Llywodraeth Cymru neu'r Cyngor Sir gyfrannu."

Ffynhonnell y llun, Delyth Prys
Disgrifiad o’r llun,

Trefor ac Eileen Beasley gyda'u plant Elidyr a Delyth

Dywedodd Sioned Elin ar ran Rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith: "Roedd safiad Eileen a Trefor Beasley yn ysbrydoliaeth i filoedd sydd wedi gweithredu dros yr iaith ar hyd y blynyddoedd.

"Roedden ni'n dathlu 60 mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith ac yn pwysleisio bod angen dysgu o'r gorffennol, gyda golwg ar y dyfodol.

"Yn sicr felly, gallwn ni weld gwerth sefydlu canolfan fyddai'n rhoi cyfle i blant a phobl ddysgu am hanes y Beasleys, yn ogystal â phwysigrwydd protest ac ymgyrchu fel ffordd o greu newid yng Nghymru heddiw."

Doedd Llywodraeth Cymru ddim am wneud unrhyw sylw.

Mae cais wedi cael ei roi i Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Cymuned Llangennech a Threftadaeth Cymuned Llanelli am sylw.