Crys Gareth Edwards yn gwerthu am £240,000 mewn ocsiwn

  • Cyhoeddwyd
gareth edwardsFfynhonnell y llun, Rogersjones
Disgrifiad o’r llun,

Mae wedi torri record byd am y crys rygbi i gael ei werthu am y mwyaf o arian mewn ocsiwn

Mae'r crys wisgodd Syr Gareth Edwards i chwarae dros y Barbariaid pan sgoriodd y cais enwog yn erbyn Seland Newydd ym 1973 wedi gwerthu am £240,000.

Mae'n torri record byd am grys rygbi mewn ocsiwn, ond does dim gwybodaeth hyd yma am bwy yw'r prynwr.

Roedd y crys yn rhan o gasgliad helaeth o grysau enwog Syr Gareth, gyda disgwyl iddo gael ei werthu am hyd at £200,000.

Ond parhau wnaeth y cynigion nes cyrraedd £40,000 yn rhagor ddydd Gwener.

Ffynhonnell y llun, Rogersjones
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Edwards yn chwarae yn y crys enwog

Fe gafodd y crys ei werthu gan gwmni arwerthwyr Rogers Jones ym Mro Morgannwg.

Nhw hefyd werthodd y crys oedd yn dal y record yn flaenorol - sef y crys wisgodd capten y Crysau Duon, Dave Gallagher ar eu taith i Brydain yn 1905/06.

Fe gafodd hwnnw ei werthu mewn ocsiwn wyth mlynedd yn ôl am £180,000.

'Balchder aruthrol'

Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd Ben Rogers Jones o'r cwmni arwerthu fod "cymysgedd o emosiynau" ynghylch gwerthu'r crys.

"Cyffro wrth gwrs, ychydig o nerfusrwydd, ymdeimlad o gyfrifoldeb a balchder aruthrol bod y teulu wedi ein penodi ni i ddod â chofroddion mor bwysig i'r farchnad."

Dywedodd hefyd ei fod yn gobeithio y bydd crys yn aros yng Nghymru, "yn ddelfrydol mewn amgueddfa."

Pynciau cysylltiedig