Plannu dolydd tanddwr i fynd i'r afael â newid hinsawdd

  • Cyhoeddwyd
Plannu morwellt
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd y gwaith plannu oddi ar yr arfordir ym Mhenychain, Pen Llŷn yr wythnos hon

Bydd pum miliwn o hadau morwellt yn cael eu plannu oddi ar arfordir Cymru i greu dolydd tanddwr fel rhan o'r ymdrech i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Cafodd 50,000 o hadau eu gosod ym Mhenychain oddi ar arfodir Pen Llŷn yng Ngwynedd yr wythnos hon.

Mae'r elusen amgylcheddol Seagrass Ocean Rescue yn gobeithio plannu 10 hectar (25 erw) o ddolydd morwellt erbyn 2026.

Yn ôl Rory Francis o elusen WWF Cymru mae Cymru wedi colli 92% o'i morwellt dros y ganrif ddiwethaf, ond mae'n bosib ei "ailgreu, adfer a'i ailblannu".

"Mae'n bosib iddo wneud gwahaniaeth go iawn yn nhermau amsugno carbon ac adfer cynefinoedd morol gwirioneddol werthfawr a phwysig," meddai.

Mae'n dweud y gallai un hectar ddarparu cynefin ar gyfer 80,000 o bysgod.

Disgrifiad o’r llun,

Fe blannodd Bethan Thomas ac aelodau eraill ei thîm 50,000 o hadau morwellt mewn un diwrnod

Dywedodd Bethan Thomas, aelod o gynllun Project Seagrass, bod modd plannu'r hadau gan ddefnyddio bagiau hesian, neu drwy eu cymysgu â mwd cyn eu chwistrellu'n syth i wely'r môr.

Fe blannodd ei thîm dros 50,000 o hadau mewn un diwrnod ac maen nhw'n gobeithio plannu dros bum miliwn cyn diwedd y cynllun.

Eglurodd bod angen gwneud y gwaith plannu o fewn cyfnodau byr iawn.

"Rhaid aros i'r llanw fynd allan," meddai. "Unwaith mae'r llanw allan 'dan ni'n gallu gosod yr holl offer a dechrau gosod ein plot."

Fe gafodd arbrawf ei gynnal o ran y dull plannu mewn bagiau yn Sir Benfro er mwyn profi ei fod yn bosib.

Bydd gwaith adfer yn parhau mewn mannau penodol oddi ar arfordir Pen Llŷn yn y gwanwyn ac oddi ar arfordir Ynys Môn y flwyddyn nesaf.

Ym mis Rhagfyr fe gafodd y prosiect drwydded forol i gynnal arbrofion adferiad ac fe gafodd o £1m gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Disgrifiad o’r llun,

Dr Richard Unsworth o Brifysgol Abertawe yn plannu morwellt ym Mhen Llŷn

Mae'r gwaith, medd Dr Richard Unsworth o Brifysgol Abertawe, yn "rhan bwysig o'r jig-so o atebion" sy'n angenrheidiol mewn ymateb i newid hinsawdd.

"Does dim un elfen sy'n well na'r gweddill, ond mae'n rhan allweddol o'r hyn sy'n cael ei alw'n datrysiad ar sail natur i newid hinsawdd," dywedodd.

Ychwanegodd Dr Unsworth bod dolydd morwellt Cymru wedi cael eu dinistrio'n araf dros amser gan ddiwydiant.

"Rydym wedi codi dinasoedd a phorthladdoedd, rydym wedi cael prosiectau cloddio mawr.

"Rydym wedi newid yr amgylchedd arfordirol yn sylfaenol a thrwy hynny rydym wedi dinistrio bywyd ar wely'r môr."

Mae'r prosiect yn cael ei reoli gan WWF mewn partneriaeth gyda Project Seagrass, Prifysgol Abertawe, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ac Ardal Gadwraeth Arbennig Pen Llŷn a'r Sarnau.