Cynllun adfer morwellt oddi ar arfordir Gwynedd a Môn

  • Cyhoeddwyd
Deifiwr yn casglu hadau morwelltFfynhonnell y llun, Lewis Jefferies/WWF

Bydd cynllun sylweddol i adfer morwellt yn cael ei sefydlu oddi ar arfordir Gwynedd a Môn dros y blynyddoedd nesaf.

Gyda phum miliwn o hadau morwellt (seagrass) yn cael eu plannu, y bwriad yw creu 10 hectar (25 acer) o ddolydd erbyn 2026 - y prosiect mwyaf o'i fath yn y DU.

Yn ôl cynllun Seagrass Ocean Rescue, gallai un hectar o'r planhigyn fod yn hafan ar gyfer hyd at 80,000 o bysgod a 100 miliwn o anifeiliaid infertebrat.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod amddiffyn ac adfer dolydd morwellt yn flaenoriaeth iddyn nhw.

Beth yw morwellt?

Mae morwellt yn amsugno a storio carbon deuocsid, ac felly yn ogystal â chyfrannu at fioamrywiaeth fe allen nhw helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Wrth dynnu carbon o'r dŵr drwy ffotosynthesis, maen nhw'n medru ei gadw yn eu meinwe a'i gladdu yng ngwely'r môr.

Maen nhw hefyd yn llefydd pwysig i fagu pysgod fel penfreision (cod) a lledod (plaice), ac yn gynefin i rywogaethau eraill fel octopysau, morloi ac anemoneau.

Ffynhonnell y llun, Lewis Jefferies/WWF

Ond mae'r DU wedi colli hyd at 92% o'i forwellt yn y ganrif ddiwethaf, oherwydd ffactorau megis llygredd, datblygu ger yr arfordir, a difrod o gadwyni.

Mae Seagrass Ocean Rescue nawr am i gymunedau fod yn rhan o'r cynllun, sydd hefyd yn cynnwys y World Wildlife Fund (WWF) mewn partneriaeth ag elusen Prosiect Morwellt, Prifysgol Abertawe, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, ac Ardal Gadwraeth Arbennig Pen Llŷn a'r Sarnau.

Y bwriad yw cysylltu pobl gyda'r arfordir ar eu stepen ddrws, a hynny ar brosiect maen nhw'n dweud sy'n hanfodol ar gyfer adfer morwellt yng Nghymru.

"Mae morwellt yn blanhigyn arbennig sy'n dod â buddion anhygoel i bobl, natur a'r hinsawdd, ond mae mwy neu lai wedi diflannu o ddyfroedd Cymru," meddai Penny Nelson o WWF Cymru.

Ffynhonnell y llun, Lewis Jefferies/WWF
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhywfaint o'r morwellt yn cael ei blannu oddi ar arfordir Pen Llŷn

Ychwanegodd mai cam cyntaf oedd hyn, ac y byddai angen dolydd morwellt o faint sylweddol er mwyn iddyn nhw wneud gwahaniaeth i'r argyfwng hinsawdd.

Yn ôl Dr Richard Unsworth, prif fiolegydd y prosiect ym Mhrifysgol Abertawe a chyfarwyddwr Prosiect Morwellt, dylai hynny fod yn bosib ymhen amser.

"Rydyn ni'n gwybod o brosiectau presennol a threialon cynhwysfawr bod adfer yn bosib, ac rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd ar dechnoleg i'w gwneud hi'n haws i adfer ar raddfa fawr," meddai.

Pynciau cysylltiedig