Croesawu tro pedol gwobrau podlediad am gategori Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Mari Elen Jones yn ennill y categori podlediadau CymraegFfynhonnell y llun, Mari Elen Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mari Elen Jones (dde) - yma gyda'r cyflwynydd radio Sian Eleri - yn ennill y categori Cymraeg y llynedd

Mae'r Gwobrau Podlediadau Prydeinig wedi penderfynu y byddan nhw'n cynnwys gwobr Gymraeg eleni wedi'r cyfan.

Dywedodd PodPod - perchnogion y British Podcast Awards - eu bod wedi gollwng y categori yn wreiddiol "gan fod pob categori yn agored i unrhyw iaith".

Cafodd y penderfyniad ei feirniadu ar y pryd fel "cam mawr yn ôl".

Ond mae'r trefnwyr nawr wedi gwneud tro pedol ar ôl "gwrando ar y gymuned podlediadau Cymraeg".

'Hollol wych'

"Dyma newyddion hollol wych i'r maes podlediadau Cymraeg," meddai Mari Elen Jones, a enillodd y categori y llynedd gyda'i phodlediad, Gwrachod Heddiw.

"Mae'n meddwl y byd bod y British Podcast Awards wedi gwrando ar yr hyn oedd gennym ni i'w ddweud, ac wedi cydnabod pwysigrwydd y categori Cymraeg.

"Dwi'n hynod ddiolchgar i Aled, Pod Cymru, am y gwaith dwi'n gwybod mae o wedi gwneud tu ôl i'r llenni yn sicrhau bod ein lleisiau ni yn cael eu clywed."

Ffynhonnell y llun, Dewr
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'Dewr', podlediad Tara Bethan, hefyd yn un o gyn-enillwyr y wobr

Dywedodd Ms Jones na fyddai hi wedi bod yn bosib i bodlediadau Cymraeg gystadlu yn erbyn y rhai Saesneg mewn categorïau eraill.

"Os na ti'n siarad Cymraeg ti'm yn dallt be' 'di'r sgwrs," meddai yn gynharach yn y mis.

"Ma' cynulleidfaoedd y rhai Saesneg yn enfawr, a 'dan ni'n cael sgyrsiau gwahanol achos ma' diwylliant gwahanol."

'Llawer o geisiadau gwych'

Mewn datganiad dwyieithog, dywedodd PodPod: "Yr ydym yn falch i gyhoeddi y bydd categori Cymraeg yn y Gwobrau Podlediadau Prydeinig eto eleni.

"Fe wnaethon ni ollwng y categori o wobrau 2023 i ddechrau gyda gan fod pob categori yn agored i unrhyw iaith.

"Yr ydym wedi gwrando ar y gymuned podlediadau Cymraeg a phwysleisiodd pwysigrwydd y categori Cymraeg, sydd wedi denu llawer o geisiadau gwych yn y blynyddoedd blaenorol.

"Mae'r Gwobrau Podlediadau Prydeinig bob amser yn ceisio dathlu ehangder ac amrywiaeth podlediadau ac rydym yn ymwybodol bod yna mwy y gallwn wneud i adeiladu ar y record hon yn 2023 a thu hwnt."

Pynciau cysylltiedig