Corwen: Codi arian i brynu gwesty Owain Glyndŵr

  • Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr lleol yn gobeithio codi £500,000 i redeg gwesty Owain Glyndŵr fel menter gymunedol
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr lleol yn gobeithio codi £500,000 i redeg gwesty Owain Glyndŵr fel menter gymunedol

Cafodd ymgyrch i achub gwesty hanesyddol yn Sir Ddinbych ei chychwyn gydag ymweliad gan un o arwyr Cymru o'r canol oesoedd ddydd Mercher. 

Mae gwesty Owain Glyndŵr wedi bod yng nghanol Corwen ers canrifoedd a bellach mae ymgyrchwyr lleol yn gobeithio codi £500,000 i'w redeg fel menter gymunedol. 

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, fe wnaeth dyn farchogaeth i ganol y dref mewn arfwisg o'r canol oesoedd wedi ei gorchuddio ag arfbais Glyndŵr i agor arwethiant ar gyfer cyfranddaliadau. 

Owain Glyndŵr oedd y Cymro diwethaf i arddel y teitl Tywysog Cymru ac fe arweiniodd wrthryfel yn erbyn rheolaeth Brenin Lloegr ar ddechrau'r 1400au. 

Roedd ei deulu'n hannu o Lyndyfrdwy, ac roedd ganddo fanordy yno, rhyw bum milltir o Gorwen. 

Siawns am 'ddyfodol disglair'

Mae Partneriaerth Corwen yn gobeithio gwerthu 2,500 o gyfranddaliadau gwerth £200 i brynu ac atgyweirio'r adeilad sy'n dwyn ei enw yng nghanol y dref. 

Y bwriad yw prynu'r adeilad cofrestredig Gradd 2 am £310,000 ac yna gwario £200,000 ar ei atgyweirio.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth Owain Glyndŵr ei hun i Gorwen ar Ddydd Gŵyl Dewi

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dylan Jones sy'n byw yn lleol ei fod am i'r gwesty fod yn ganolbwynt i'r gymuned

Mae Dylan Jones wedi ei fagu yng Nghorwen ac yn aelod o'r bartneriaeth leol. Mae'n gobeithio y bydd prynu'r gwesty'n hwb i'r dref. 

"Mae o'n mynd i fod yn westy a bar, ond 'den ni hefyd isio iddo fo fod yn ganolbwynt i'r gymuned," meddai.

"Dwi wedi gweld y dirywio yng Nghorwen ei hun, y ffordd mae pethau wedi mynd i lawr dros y blynyddoedd a dwi'n meddwl fod y gymuned yn prynu yr Owain Glyndŵr yn siawns da iawn i'r gymuned newid pethau i gael dyfodol disglair."

'Digonedd o hanes'

Mae'r gwesty yn un o wyth tafarn oedd yn cael eu defnyddio gan deithwyr y Goets Fawr rhwng Llundain ac Iwerddon ganrifoedd yn ôl. 

Mae wedi cael ei redeg am y chwarter canrif diwethaf gan ŵr busnes lleol, Ifor Siôn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bobl leol yn gobiethio y bydd prynu'r gwesty yn hwb i Corwen

Mae cyfres o ddigwyddiadau wedi eu trefnu yn y gwesty yr wythnos hon i ddenu pobl i mewn ac i'w hannog i brynu cyfranddaliadau. 

"Mae 'na ddigonedd o hanes. Mae darn cefn y building yn eithaf medieval."Mae 'na hanes bod un o'r eisteddfodau cyntaf wedi bod yma yn 1789."So mae 'na ddiigonedd o hanes a dyna pam dwi'n meddwl bod o'n bwysig i'r genedl fod rhywbeth fel hyn yn digwydd."

Pynciau cysylltiedig