Beth ydy dy hoff lyfr Cymraeg?
- Cyhoeddwyd
Oes gennych chi hoff lyfr Cymraeg? Ar Ddiwrnod y Llyfr dyna ofynnon ni i gyfranwyr podlediad Colli'r Plot, dolen allanol sy'n trafod llyfrau, darllen ac ysgrifennu.
Dyma argymhelllion tri o'r criw sy'n cyfrannu i'r pod; yr awduron Bethan Gwanas a Sian Northey a'r cynhyrchydd, Aled Jones:
Bethan Gwanas
Dyma fy hoff lyfr Cymraeg ers iddo gael ei gyhoeddi yn 2014 a does 'na'm byd cweit wedi gallu ei guro fo hyd yma: Awst yn Anogia gan y diweddar Gareth F Williams. Clamp o nofel dros 500 tudalen wedi'i seilio ar yr hyn ddigwyddodd i drigolion Ynys Creta yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mi fu'r Naziaid yn arbennig o filain yno, a'r andartes, y gwrthwynebwyr lleol, yn neilltuol o styfnig a phenderfynol. Pan aeth Gareth yno ar wyliau a chlywed yr hanesion, roedd o ar dân i greu nofel fyddai'n plethu'r ffeithiol a'r dychmygol. Mae'r canlyniad yn gampwaith.
Mae yna nifer o gymeriadau, pob un â'i stori a phob un yn cydio: Yanni'r Chwibanwr ac Elias y Rhedwr sy'n nabod mynyddoedd Creta yn well na neb; Nikos yr hogyn ifanc 'caled' sydd wedi gweld pethau erchyll; y chwiorydd a ddaeth o'r môr (meddan nhw) ac mae yma Almaenwyr da a dewr yn ogystal. Byddai Gareth wastad yn licio dangos nad yw bywyd yn ddu a gwyn.
Mae 'na olygfeydd dirdynnol sydd wedi aros yn fyw yn fy nghof i ac yn beryg o wrthod gollwng am flynyddoedd lawer. Os nad ydach chi wedi ei darllen hi - gwnewch.
Aled Jones
Y llyfr Cymraeg byddwn yn ei argymell yw prosiect Y Pump. Cyfres o bum nofel, a phob un wedi'i chyd-ysgrifennu gan ddau awdur.
Dwi'n gwybod bod yna bump llyfr ond enillodd y gyfres wobr Plant a Phobl Ifanc cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2022 ac mae'r gyfres yn teimlo fel un nofel wrth i'r llyfrau unigol blethu a gweu storïau'r cymeriadau gyda'i gilydd.
Mae Y Pump yn brosiect lle gwelwyd awduron ifanc yn cydweithio gydag awduron profiadol i greu cyfres o bum nofel sydd yn trafod heriau bywyd person ifanc heddiw. Mae'r nofelau yn trafod pynciau fel rhywedd, iechyd meddwl, hil, cyfeillgarwch a hunaniaeth. Mae'n braf cael criw o awduron ifanc yn cydweithio i drafod pynciau sydd weithiau ar goll o lyfrau Cymraeg neu heb gael eu trafod o'r blaen.
Mae'r awduron profiadol yn cynnwys Megan Angharad Hunter, Mared Roberts, Elgan Rhys, Iestyn Tyne a Marged Elen Wiliam. Maen nhw'n cydweithio gydag awduron newydd sydd heb sgwennu nofelau o'r blaen ond sydd gyda phrofiad bywyd o'r themâu a drafodir yn y llyfrau.
Emosiynol, pwerus ac yn agoriad llygad yw sut y byddwn yn disgrifio'r gyfres. Doeddwn i ddim eisiau rhoi unrhyw un o'r llyfrau i lawr.
Mae pob un o'r llyfrau yn fyr ac wedi ei ysgrifennu mewn ffordd hawdd i ddarllen. Er bod Y Pump wedi eu hanelu tuag at bobl ifanc dwi'n teimlo y gallwn ni gyd ddysgu rhywbeth trwy ddarllen hanes Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat.
Sian Northey
Dw i'n casáu cwestiynau fel hyn, a dw i ond yn ateb ar yr amod fod pawb yn deall y byddai fy newis yn wahanol petae chi'n gofyn i mi fory. Mwyaf tebyg 'sa fo'n wahanol 'sa chi'n gofyn i mi mewn dwyawr.
Ond rŵan, heddiw, mi wna i ddewis Y Pla gan William Owen Roberts (Wil Garn). Fe gyhoeddwyd y nofel yn 1987. Wnes i ddim prynu fy nghopi i adeg honno, ond mi oedd hi wedi bod yn rhythu arna i oddi ar y silffoedd 'aros eu tro' ers degawdau. Yn hollol ddiddychymyg hwn oedd y llyfr cyntaf i mi ei ddarllen yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
Mae Chwilen Bwm a'r cymeriadau eraill yn bobl fel ni, ac eto mae eu hagwedd at bethau mor wahanol, a'r newid byd maen nhw'n ei wynebu mor chwyldroadol. Roeddwn i'n dychryn ar eu rhan, ac eto'n cael fy nghysuro bod dynolryw wedi goroesi trwy newid a thrwy beidio newid.
Mi wnes i ofyn am nofel ddiweddaraf Wil Garn, Cymru Fydd, yn anrheg pen-blwydd mis diwethaf. Dw i heb ei dechrau eto, ond yn edrych ymlaen yn arw.
Am fwy o argymhellion llyfrau, darllenwch am bump uchaf diweddar Francesca Sciarrillo sydd hefyd yn egluro pam ei bod hi wrth ei bodd yn darllen.
Hefyd o ddiddordeb: