Bywyd yn 'newid mewn chwinciad'

  • Cyhoeddwyd
Dafydd yn yr ysbytyFfynhonnell y llun, Dafydd Leigh
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd yn yr ysbyty

Ar ôl anwybyddu symptomau ei salwch am gyfnod, bu Dafydd Leigh o Benybont yn ddifrifol wael mewn ysbyty. Wedi iddo gael deiagnosis o 'ulcerative colitis', mae Dafydd wedi newid ei fywyd gan gychwyn nofio mewn dŵr oer a defnyddio CBD.

Mae CBD yn un o ddau prif gyfansoddyn canabis. Mae'n gyfreithlon ac ar gael drwy nifer o siopau a chwmniau erbyn hyn. Mae tua 1.3 miliwn o bobl ym Mhrydain yn ei ddefnyddio yn rheolaidd - er does dim tystiolaeth gwyddonol pendant am ei fuddion.

Mae Dafydd yn dweud fod defnyddio CBD a newid ei fywyd wedi gwella symptomau ei gyflwr.

Bu'n rhannu ei brofiad personol o ddelio gyda'i gyflwr gyda Aled Hughes ar Radio Cymru. Dyma ei stori:

Mae fe wedi bod yn siwrne go hir - os ydy ni'n mynd â'r tâp nôl i 2017, ar y pryd o'n i dal yn athro ysgol gynradd ac o'n i wedi dechrau sylwi ar newidiadau bach i'n iechyd. O'n i 'di dechrau colli pwysau, 'di dechre mynd i'r tŷ bach yn amlach.

Pan o'n i yn mynd i'r tŷ bach o'n i'n dechrau gweld gwaed yn dod mas ac oedd hynny'n digwydd yn amlach.

Cadw'n dawel

Am ryw reswm sili nes i benderfynu anwybyddu'r symptomau a pheidio siarad na dweud dim byd.

Fel 'na mae dynion yn gwneud, heb ystrydebu gormod, i ryw raddau.

Es i'n rili dost. Cyrhaeddodd y point pan oedd fy ngwraig Sara 'di dweud 'digon yw digon'. A diolch byth bod hi wedi neud.

Aeth â fi'n syth i'r doctor. Collais i ryw stôn yn y 10 diwrnod olaf, o'n i'n meddwl taw bowel cancer oedd gen i. Yn edrych yn ôl mae'n hollol sili mod i'n teimlo taw'r peth gorau oedd anwybyddu'r peth.

Ges i'n gymryd mewn yn syth at y llawfeddygon. Ar adegau oedd e'n touch and go a ddim yn edrych yn addawol achos o'n i wedi bod yn dost am sut gymaint o amser.

Deiagnosis

O'n i yn yr ysbyty am rhyw fis, yn ffaelu cerdded. Roedd lot o brofion yn digwydd. Ges i diagnosis o ulcerative colitis, sy'n debyg i crohns disease. Inflammatory bowel disease sydd gen i - roedd yn golygu bod fy nghorff yn cynnwys gormod o inflammation.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Leigh
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Leigh yn yr ysbyty

Pan ges i'r sgwrs gyda'r doctoriaid dywedon nhw bydde rhaid fi gymryd tabledi am weddill fy mywyd a byw gyda'r symptomau.

Pan ti'n 24 oed ac yn ffit a mynd i'r gym, o'n i'n trainio am Ironman - o'n i ddim moyn gorfod cymryd tabledi am weddill fy mywyd.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Leigh
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd a'r beic ar ôl seiclo'r Carten100 - Caerdydd i Ddinbych-y-pysgod ym mis Mai 2017: "Gorfod stopio yn aml i fynd i'r tŷ bach - roeddwn i'n dost ar y pryd! Ond wedi dweud wrth neb!"

Pan o'n i mas o'r ysbyty o'n i'n chwilio (arlein) am 'ways to reduce inflammation' ac oedd CBD yn dod lan o hyd. O'n i ddim yn gwybod lot fawr am CBD ar y pryd a 'nes i gysylltu CBD yn syth gyda canabis.

Gyda mwy o ymchwil o'n i 'di gweld y gwahaniaeth rhwng hemp a canabis a bod CBD ei hun yn dod o canabis a hemp. O'n i 'di dechrau prynu olew CBD ac oedd ambell i botel yn gweithio ac un arall ddim yn gweithio. O'n i'n ffonio cwmnïau CBD ac yn gofyn cwestiynau iddi nhw.

'Oedd neb rili yn gallu rhoi atebion i fi. Yn y pen draw nes i greu olew fy hun, neud ambell i gwrs arlein a siarad â gwahanol bobl.

Ers hynny mae 'di datblygu ac mae gen i gwmni o'r enw JoioCBD. Dwi'n prowd iawn ohono.

Beth yw CBD?

  • Mae CBD yn un o'r cydrannau sy'n rhan o'r planhigyn canabis.

  • Y brif elfen yn y planhigyn yw tetrahydrocannabinol (THC), sef yr elfen seicotropig sy'n gallu arwain at broblemau iechyd.

  • Dydi olew CBD ddim yn cynnwys THC.

  • Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud nad yw CBD yn achosi unrhyw niwed ac nad yw wedi profi i fod yn gaethiwus.

  • Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dweud nad oes tystiolaeth gwyddonol digonol fod cynnyrch CBD o fudd i bobl.

  • Mae canabis yn gyffur dosbarth B anghyfreithlon yn y DU ond mae CBD ar ei ben ei hun yn gyfreithlon.

Byw gyda'r cyflwr

O'n i yn dod mas o'r ysbyty yn cymryd dros 20 o dabledi bob dydd - o'n i'n magu pwysau, ffaelu cysgu yn y nos. Roedd fy mywyd wedi newid mewn chwinciad.

Pan ddaeth y cyfnod clo cyntaf roedd y straen wedi arwain at flareup arall gyda'r ulcerative colitis. Nes i benderfynu roi gorau i'r tabledi ac o'n i jyst yn mynd i ddefnyddio CBD yn lle cyfuniad o'r ddau.

'Smo fi eisiau i bawb feddwl taw CBD yw'r ateb i bob dim a bod ti'n gallu stopio cymryd tabledi a mynd syth ar CBD. 'Smo fi'n dweud hynny.

Beth dwi yn dweud yw fod byw bywyd mewn ffordd holistig gyda'r gobaith o gymryd cyfrifoldeb dros eich iechyd eich hun (yn beth da).

Dwi'n cyfuno olew CBD yn ddyddiol, dwi'n eistedd mewn dŵr oer bob dydd o ran iechyd meddwl a lleihau inflammation. Dwi'n neud grounding bob dydd sef mynd am dro heb esgidiau.

Mae CBD wedi arwain at newid yn fy mywyd ac yna mae pethau fel y dŵr oer a phethau eraill wedi cydfynd at hynny ac wedi ychwanegu at ffordd iach o fyw.

Profiad personol Dafydd Leigh yw'r stori yma. Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dweud nad oes tystiolaeth gwyddonol fod cynnyrch CBD o fudd i bobl.

Os oes gennych symptomau tebyg, cyngor y GIG yw i weld eich meddyg lleol.

Pynciau cysylltiedig