Prif sgoriwr, Helen Ward yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol

  • Cyhoeddwyd
Helen WardFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Helen Ward ei chapiau diweddaraf yng Nghwpan Pinatar

Mae prif sgoriwr Cymru, Helen Ward, wedi cyhoeddi ei bod hi'n ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Fe wnaeth ymosodwraig Watford, sydd bellach yn 36, chwarae 105 o gemau i Gymru gan sgorio 44 gôl - y nifer fwyaf erioed yn hanes y tîm cenedlaethol.

Bydd hi'n rhoi'r gorau i chwarae dros ei chlwb ar ddiwedd y tymor.

Gan wneud ei hymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Lwcsembwrg yn 2008 - gêm y bu iddi hefyd sgorio ynddi - mae ei gyrfa wedi pontio cyfnod amateur a phroffesiynol camp y merched.

Ei hymgyrch olaf oedd methiant Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd 2023, er iddyn nhw ddod yn agos mewn ymgyrch ragbrofol ysbrydoledig.

Clwb anrhydeddus

"Mae'n torri fy nghalon na wnes i gyrraedd twrnament rhyngwladol gyda'r tîm yma, nad oeddwn i ar fy ngorau ar yr un pryd â chymaint o'r chwaraewyr nawr," meddai mewn neges ar Twitter.

"Ond dwi'n gwybod y byddan nhw'n cyrraedd yno'n fuan, a serennu ar y llwyfan mwyaf, ac alla i ddim aros i'w gweiddi nhw ymlaen pan fydd hynny'n digwydd."

Cafodd Ward ei geni yn Llundain, ond roedd yn gymwys i chwarae dros Gymru oherwydd ei thaid.

Yn ei neges o ymddeoliad, dywedodd ei bod yn teimlo'r "balchder" bob tro roedd hi'n clywed yr anthem genedlaethol, a bod chwarae dros Gymru wedi dod yn "bwrpas" iddi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Helen Ward 44 gwaith dros ei gwlad

"Dyna pam nes i gadw fynd a cheisio gwella; y rheswm nes i ddod yn ôl ar ôl cael plant; pan nes i ddim gadael i Covid fod yn ddiwedd ar bethau," meddai.

"Dyna pam nes i sylwi mai nid lle 'dych chi'n cael eich geni sy'n cyfrif, ond lle 'dych chi'n teimlo 'dych chi'n perthyn, a dwi erioed wedi bod mor gartrefol â phan oeddwn i gyda fy nhîm, yng Nghymru."

Yn ogystal â bod yn brif sgoriwr Cymru, mae Ward yn un o ddim ond naw sydd wedi cynrychioli Cymru 100 o weithiau.

Mae'r clwb anrhydeddus hefyd yn cynnwys Jess Fishlock, Lauren Dykes, Sophie Ingle, Natasha Harding ac Angharad James o dîm y merched, a Chris Gunter, Gareth Bale a Wayne Hennessey dros y dynion.