Cyfle i Helen Ward anelu at ganfed cap i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Helen WardFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Ward wedi dweud y byddai ymuno â'r Clwb 100 Cap dros Gymru'n gwireddu breuddwyd

Mae dod yn aelod o'r clwb arbennig o chwaraewyr sydd wedi ennill o leiaf 100 o gapiau i Gymru o fewn cyrraedd Helen Ward wrth iddi gael ei chynnwys yn y garfan ar gyfer cystadleuaeth Cwpan Pinatar.

Mae'r ymosodwr 35 oed, sydd eisoes â 97 o gapiau rhyngwladol, ymhlith y 26 o chwaraewyr sydd wedi eu dewis gan Gemma Grainger ar gyfer tair gêm Cymru yn y twrnamaint yn Sbaen.

Os fydd Ward yn chwarae yn y tair gêm yn Sbaen, hi fyddai'r chweched chwaraewr i dderbyn o leiaf 100 o gapiau, gan efelychu Jess Fishlock, Sophie Ingle, Loren Dykes, Chris Gunter a Gareth Bale.

A hithau gyda 49 o gapiau dros ei gwlad hyd yn hyn, fe allai'r gôl-geidwad Laura O'Sullivan hefyd gyrraedd carreg filltir nodedig yn ystod y gystadleuaeth.

Mae Rachel Rowe, a gollodd gemau rhagbrofol Cwpan y Byd ym misoedd Hydref a Thachwedd oherwydd anaf yn dychwelyd i'r garfan.

Mae'r chwaraewyr canol cae sy'n chwarae i glybiau yn UDA, Angharad James a Jess Fishlock ar gael, er eu bod yn hyfforddi cyn dechrau'r tymor newydd.

Mae Kayleigh Green wedi ei chynnwys er iddi gael dau gerdyn coch yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Mae'r golwr Poppy Soper ymhlith tri chwaraewr sydd wedi eu dewis am y tro cyntaf i gynrychioli eu gwlad.

Bydd Cymru'n wynebu'r Alban ar 16 Chwefror, a naill ai Gwlad Belg neu Slovakia ar 19 Chwefror.

Bydd y trydydd gêm yn erbyn Rwsia, Gwlad Pwyl, Iwerddon neu Hwngari ar 22 Chwefror.

Carfan Cymru: Laura O'Sullivan (Caerdydd), Olivia Clark (Coventry United), Poppy Soper (Chelsea / Plymouth Argyle), Rhiannon Roberts (Lerpwl), Esther Morgan (Leicester City, ar fenthyg gan Tottenham Hotspur), Hayley Ladd (Manchester United), Gemma Evans (Reading), Morgan Rogers (Watford, ar fenthyg gan Tottenham Hotspur), Rachel Rowe (Reading), Lily Woodham (Reading), Sophie Ingle (Chelsea), Anna Filbey (Charlton Athletic), Angharad James (Orlando Pride), Josie Green (Tottenham Hotspur), Charlie Estcourt (Coventry United), Jess Fishlock (OL Reign), Carrie Jones (Manchester United), Ffion Morgan (Bristol City), Megan Wynne (Charlton Athletic), Elise Hughes (Charlton Athletic), Kayleigh Green (Brighton & Hove Albion), Helen Ward (Watford), Natasha Harding (Reading), Ceri Holland (Lerpwl), Chloe Williams (Blackburn Rovers, ar fenthyg gan Manchester United), Georgia Walters (Sheffield United).