Powys: Galw ar gyngor i atal tranc y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr wedi cefnogi cynnig gyda'r bwriad o atal gostyngiad pellach yn nifer y siaradwyr Cymraeg ym Mhowys.
Daeth y cynnig gan arweinydd grŵp Plaid Cymru yn dilyn cyhoeddi ffigyrau'r cyfrifiad.
Dangosodd y ffigyrau fod Powys wedi colli dros 2,600 o siaradwyr Cymraeg rhwng 2011 a 2021.
Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan bod yn "rhaid i ni weithredu nawr" os am wella'r sefyllfa erbyn y cyfrifiad nesaf.
O ganlyniad, ei fwriad oedd sicrhau cefnogaeth i sawl addewid, gan gynnwys:
Gweithdy ymwybyddiaeth iaith ar gyfer yr holl gynghorwyr a staff;
Anelu at gynyddu canran y siaradwyr Cymraeg rhugl ymysg staff y cyngor i 16%;
Y Gymraeg i fod yn rhan annatod o'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd a bod arwyddion masnachol yn ddwyieithog ledled y sir;
Cefnogi datblygiad cynllun twristiaeth gan fanteisio ar hanes y sir megis Sycharth, Brynglas, Cilmeri, a Chanolfan Glyndwr;
Gofyn i Lywodraeth Cymru ymestyn cynllun ARFOR - cynllun economaidd ieithyddol gwerth £11m yng Ngorllewin Cymru - i Sir Drefaldwyn i hybu'r Gymraeg a'r economi;
Dysgu gwersi a throsglwyddo gwybodaeth am arfer gorau o'r hyn sydd wedi digwydd yng Ngwlad y Basg trwy gydblethu gweithgaredd economaidd ac iaith;
Cefnogi'r alwad am asiantaeth datblygu economaidd gwledig.
'Ddylen ni ddim gorfodi'
Cafodd cynlluniau i greu dwsin o ysgolion cynradd Cymraeg a thair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ystod y degawd nesaf eu gwrthod yn dilyn pryderon am gostau.
Dywedodd y Ceidwadwr Iain McIntosh: "Dydw i ddim yn gwrthwynebu, ond mae angen i ni wybod ble byddan nhw'n cael eu hadeiladu ac yn y pen draw faint fyddai'n ei gostio."
Tynnodd sylw at y ffaith bod angen i gynigion gael eu costio'n llawn a bod "angen eglurder," ond y byddai'n gefnogol petai cynnig wedi'i gostio'n llawn yn dychwelyd i'r cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan: "Mae Powys yn dda iawn am ysgrifennu cynlluniau - mae hyn amdan cyflawni."
Cafodd ymgais i anelu fod 16% o staff y cyngor yn gallu'r Gymraeg hefyd ei gwestiynu.
Dywedodd y Cynghorydd Ceidwadol Peter Lewington: "Nid wyf yn meddwl y dylem fod yn gosod cwotâu na gwahaniaethu cadarnhaol gan y gallai olygu nad yw'r person gorau yn cael y swydd.
"Ddylen ni ddim bod yn gorfodi pobl i ddysgu Cymraeg i ennill bywoliaeth yn y cyfnod anodd yma."
Derbyniwyd y bleidlais i ychwanegu'r gwelliannau i'r cynnig gyda 46 pleidlais o blaid, dau yn erbyn a phump yn ymatal.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2022
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2021