Cyngor Powys yn 'llusgo’u traed' gydag addysg Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Rose a'i theulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Rose a'i theulu symud o Lundain i'r Gelli Gandryll er mwyn sicrhau addysg Gymraeg i'w mab Idris

Mae mam o dde Powys wedi ysgrifennu llythyr agored at y cyngor yn mynegi pryder y bydd ei mab yn gorfod teithio dros awr i gyrraedd yr ysgol uwchradd uniaith Gymraeg agosaf.

Mae Rose Linn-Pearl a'i theulu yn byw yn y Gelli Gandryll, a'i mab Idris mewn ysgol gynradd Gymraeg yn Aberhonddu ar hyn o bryd.

Ond pan fydd ei gyfnod yno ar ben, bydd yn wynebu taith o dros awr er mwyn cyrraedd Ysgol Ystalyfera.

Dywedodd Cyngor Powys wrth Newyddion S4C eu bod yn cydnabod nad oes gan bob ardal yn y sir fodd o gyrraedd addysg gynradd ac uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dim ysgol uwchradd uniaith Gymraeg

Ar hyn o bryd does yna ddim ysgol uwchradd uniaith Gymraeg ym Mhowys.

Yn 2021 fe gyhoeddwyd y byddai Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn troi yn ysgol Gymraeg yn unig yn raddol, ond fe fydd hi'n rhai blynyddoedd cyn gweld y newid hwn yn yr adran uwchradd.

Disgrifiad o’r llun,

"Roedd tyfu lan trwy'r Gymraeg yn bwysig i fi fel rhan o'n stori i yn tyfu lan, a fi ishe'r un peth i fe," meddai Rose

"Wnes i ddim meddwl biti fe nes i fe ddechrau'r ysgol," meddai Rose.

"Does dim 'da ni ysgol gyfun iddo fynd i. Does dim ysgol uwchradd yn holl sir Powys sydd yn iaith Gymraeg.

"Ma' 'da ni ffrwd Gymraeg yn ambell i ysgol, ond dim ysgol uwchradd iaith Gymraeg yn unig."

'Trueni' troi at ysgol Saesneg

Fe wnaeth Rose a'i theulu symud o Lundain i'r Gelli Gandryll er mwyn sicrhau bod Idris, sydd ym Mlwyddyn 2, yn gallu derbyn ei addysg trwy'r Gymraeg.

Fe allai ddanfon ei mab i ysgol Saesneg gyfagos, ond byddai hynny'n "drueni" ar ôl symud yn ôl i Gymru, meddai.

"Roedd tyfu lan trwy'r Gymraeg yn bwysig i fi fel rhan o'n stori i yn tyfu lan, a fi ishe'r un peth i fe," meddai.

Ysgrifennodd Rose lythyr at Gyngor Powys yn galw arnyn nhw i gymryd y sefyllfa o ddifrif.

Er ei bod wedi'i ddanfon a'i gyhoeddi yn y wasg leol a chenedlaethol, mae'n dal i aros am ymateb swyddogol gan gabinet yr awdurdod.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elwyn Vaughan fod "diffyg gweithredu" wedi bod ar addysg Gymraeg ym Mhowys

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Powys, Elwyn Vaughan, mae diffyg gweithredu dros y Gymraeg yn hen hanes ym Mhowys.

"Yn hanesyddol mae 'na ddiffyg gweithredu," meddai.

"Powys ydy'r unig sir yng Nghymru gyfan sydd â chanran is yn cael mynediad at addysg Gymraeg na chanran y siaradwyr Cymraeg.

"Mae'n rhaid gweithredu a newid gêr, dyna'r her i Bowys."

'Ddim yn deg'

Mae gan Gyngor Powys Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032, sydd yn anelu at gynyddu darpariaeth addysg Gymraeg yn raddol dros y 10 mlynedd nesaf.

Ond mae rhai ymgyrchwyr yn dweud nad yw'r cynllun yn ddigon uchelgeisiol a bod cenhedlaeth o blant yn colli'r cyfle i dderbyn addysg Gymraeg yn y cyfamser.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n hanfodol "peidio gadael i dwf addysg Gymraeg lesteirio", medd Elin Maher

Dywedodd cyfarwyddwr cenedlaethol mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg, Elin Maher: "Mae 'na bump i 10 mlynedd o blant wedi colli mas ar ddarpariaeth Gymraeg, a dyw hynny ddim yn deg.

"Os mai diffyg cyllid sydd yn rhwystro awdurdodau lleol rhag datblygu, yna mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb i'r sefyllfa hon, a pheidio gadael i dwf addysg Gymraeg lesteirio yn yr ardaloedd hynny lle dyw rhieni ddim yn gwybod lle i fynd."

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Powys eu bod yn cydnabod nad oes gan bob ardal yn y sir fodd o gyrraedd addysg gynradd ac uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, meddai'r awdurdod, yn gyfle hanfodol i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y sir.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod 'na ymrwymiadau i greu 23 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg dros y 10 mlynedd nesaf.

Pynciau cysylltiedig