Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-0 Bristol City
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n brynhawn i'w chofio i Gaerdydd yn sgil buddugoliaeth gêm ddarbi yn erbyn eu hymwelwyr o Fryste.
Fe ddylai Bristol City wedi mynd ar y blaen wedi 24 munud pan gawson nhw eu gwadu ddwywaith wedi rhediad pwerus Mark Sykes, yn gyntaf wrth i Cedric Kipre glirio oddi ar y llinell ac wedyn wrth i ergyd nerthol Mehmeti gael ei harbed gan Ryan Allsop.
Daeth unig gyfleon yr Adar Gleision o'r hanner diolch i ergyd o bellter Ojo a pheniad Mark McGuinness o gic gornel, ond arbedwyd y ddau yn gyfforddus gan Max O'Leary.
Ond wedi'r egwyl roedd gwellhad o safbwynt Caerdydd diolch i Sory Kaba, a lwyddodd i benio croesiad Ryan Wintle i gefn y rhwyd.
Dyblwyd y fantais gydag 20 munud yn weddill wrth i ergyd 20 llath Jaden Philogene selio'r fuddugoliaeth.
Unig siom Caerdydd oedd Allsop yn cael ei anfon o'r maes am lawio tu allan i'r cwrt cosbi yn ystod amser ychwanegol, gan olygu fod Perry Ng yn gorfod mynd i'r gôl am yr eiliadau olaf.
Mae llwyddiant Caerdydd i ddal eu gafael ar un o fuddugoliaethau pwysicaf y tymor wedi lleddfu pryderon am syrthio o'r adran.