Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Gweilch 20-21 Benetton
- Cyhoeddwyd
Colli o drwch blewyn oedd tynged y Gweilch yn stadiwm Swansea.com nos Sadwrn.
Fe fethodd Jack Walsh gic funud olaf wrth i'w drosiad daro'n erbyn y postyn ar noson rwystredig i'r tîm cartref.
Sgoriodd asgellwr y Gweilch, Luke Morgan, yn gynnar cyn i Benetton frwydro nol i gymryd y blaen o 21-8.
Daeth ceisiau gan Joaquin Riera a Marcus Watson, gyda 11 pwynt arall yn dod diolch i gyn-chwaraewr Wasps, Jacob Umaga.
Ond brwydrodd y Gweilch yn ôl gyda cheisiau hwyr gan Sam Parry a Reuben Morgan-Williams, ond ofer bu eu hymdrech yn y diwedd.
Serch hynny fe sicrhaodd dîm Toby Booth bwynt bonws, ond maent yn 13eg yn y tabl ac yn dolc arall yn eu gobeithion prin o orffen yn yr wyth uchaf.