Rygbi: Noson siomedig i Gaerdydd a'r Dreigiau
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes Caerdydd a'r Dreigiau yn y Pencampwriaeth Rygbi Unedig nos Sadwrn.
Roedd hi wastad yn mynd i fod yn noson anodd i'r Dreigiau, un safle oddi ar waelod tabl y Pencampwriaeth Rygbi Unedig, tra roedd Connacht yn chwilio am drydedd buddugoliaeth yn olynol.
Ond er i'r Dreigiau orfod chwarae gyda 14 dyn am 50 munud, roedd hi'n ymdrech lew gan y tîm cartref ac bu ond y dim iddyn sicrhau canlyniad.
Croesodd Aaron Wainwright yn gynnar i'r Dreigiau ond o fewn dim roedd y sgôr yn gyfartal diolch i gais Cian Prendergast.
Gwnaed y noson yn un anodd i'r rhanbarth Gymreig pan gafodd Matthew Screech ei anfon o'r maes am dacl uchel, er i gais Jarred Rosser wneud hi'n 20-10.
Brwydrodd Connacht yn ôl, Jarrad Butler a Dave Heffernan yn sgorio, cyn i gôl adlam hwyr Sam Davies daro'r postyn - i fawr siom y cefnogwyr cartref.
Sgôr terfynol - Dreigiau 20-22 Connacht
Doedd hi ddim mor agos yn y brifddinas wrth i Ulster sicrhau buddugoliaeth gyfforddus.
Ysgubwyd Caerdydd i'r neilltu wrth i Ulster gadw eu gafael ar le ymysg y ddau uchaf ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig.
Croesodd Stewart Moore, Jacob Stockdale, Nathan Doak, Billy Burns i gyd cyn i ddwy gais gan Tom Stewart goroni perfformiad cryf i'r tîm o Iwerddon.
Arweiniodd Caerdydd am gyfnod byr diolch i Owen Lane, a fachodd ail gais yn hwyr, cyn i Aled Summerhill hefyd groesi.
Ond roedd hi'n arddangosfa tila gan y tîm cartref ar benwythnos anodd arall i'r rhanbarthau Cymreig.
Sgôr terfynol - Caerdydd 20-42 Ulster
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2023