Wrecsam: Seiclwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
A541 Ffordd WyddgrugFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cadarnhaodd y llu fod car Fiat 500 gwyn yn gysylltiedig â'r digwyddiad

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad angheuol lle bu farw seiclwr.

Fe ddigwyddodd tua 16:00 brynhawn Sadwrn ar gyffordd Ffordd yr Wyddgrug a Hen Ffordd yr Wyddgrug yn Gwersyllt, ger Wrecsam.

Cadarnhaodd y llu fod car Fiat 500 gwyn yn gysylltiedig â'r digwyddiad.

Roedd tri ambiwlans ffordd ac un hofrennydd ambiwlans awyr wedi'i darparu i'r fan.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn apelio am dystion i wrthdrawiad traffig angheuol ger Gwersyllt ddoe lle yn anffodus bu farw seiclwr gwrywaidd.

"Bu'r gwrthdrawiad yn ymwneud â Fiat 500 gwyn am 16:05 ar yr A541 Ffordd yr Wyddgrug."

Pynciau cysylltiedig