Esgeulustod staff meddygol wedi cyfrannu at farwolaeth actores - crwner
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi dod i'r casgliad bod esgeulustod gan staff meddygol wedi cyfrannu at farwolaeth actores o ogledd Cymru.
Bu farw Sara Anest Jones, 25 oed o Gorwen, mewn ysbyty yn Stoke-on-Trent dridiau wedi gwrthdrawiad ger Bangor, Gwynedd ym mis Mawrth 2021.
Cafodd Gemma Pasage Adran, nyrs 32 oed o'r Ffilipinau, ei lladd yn y fan a'r lle yn yr un digwyddiad.
Yn y cwest i'w marwolaeth, dywedodd y crwner fod Ms Jones wedi marw o ganlyniad i wrthdrawiad ffordd a chyfres o "fethiannau" a "chyfleoedd a gollwyd" gan glinigwyr.
Roedd y cwest wedi clywed bod car Ms Jones wedi croesi i ochr anghywir y lôn cyn y gwrthdrawiad, a bod lefel uchel o alcohol yn ei gwaed.
Cafodd post mortem ei gynnal ar Ms Jones ar 9 Ebrill 2021, gan Dr Muhammad Aslam, patholegydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Dangosodd yr archwiliad fod Ms Jones wedi dioddef nifer o anafiadau, ond y mwyaf arwyddocâol oedd ergyd i'w bol.
Fe achosodd hynny friw i'r coluddyn a arweiniodd yn ei dro at peritonitis, sef chwydd yn leinin yr abdomen.
Roedd anafiadau gwasgu hefyd wedi lleihau'r siawns o oroesi, meddai Dr Aslam.
'Cyfres o gamgymeriadau'
Ond wrth ddatgan ei gasgliad, dywedodd y Crwner Cynorthwyol Duncan Ritchie bod "methiant difrifol" wedi bod yn y gofal a gafodd Ms Jones wedi'r gwrthdrawiad.
"Dylai staff meddygol fod wedi bod yn effro i anafiadau mewnol," meddai.
"Er yn cydnabod bod meddygon yn ddynol ac yn gallu gwneud camgymeriadau, roedd hyn yn ansoddol wahanol i ddiagnosis anghywir.
"Methodd meddygon gyda'i gilydd â gwneud gwiriadau sylfaenol a fyddai wedi dod o hyd i'w hanaf pe baent yn cael eu gwneud.
"Y darlun cyffredinol yw cyfres o gamgymeriadau a wnaed gan unigolion a arweiniodd at drychineb."
Cofnododd y crwner bod Ms Jones wedi marw o ganlyniad i wrthdrawiad ffordd a gyfrannwyd gan esgeulustod.
Ychwanegodd nad oedd ef wedi ei argyhoeddi bod Ms Jones wedi achosi'r gwrthdrawiad yn fwriadol na chwaith ei bod hi wedi dymuno marw.
Cafodd y gwrthdrawiad ei achosi, meddai'r crwner, gan "gamgymeriad" ar adeg pan oedd hi "yn feddw a ddim mewn rheolaeth o'r car".
Roedd Ms Jones wedi ennill nifer o wobrau llenyddiaeth a drama, gan gynnwys Gwobr Richard Burton yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017.
Roedd hi hefyd wedi byw gyda'r anhwylder bwyta anorecsia a diffyg hunanhyder, ac wedi cael help gwasanaethau iechyd meddwl.
Ond cafodd ei disgrifio gan ei thad fel merch "llawn bywyd ac egni", a'i bod yn gwneud "yn dda iawn" adeg y gwrthdrawiad.
Mewn datganiad wedi'r dyfarniad, dywedodd Aled ac Ann Jones, rhieni Sara: "Rydym ni fel teulu yn derbyn casgliadau'r crwner heddiw.
"Mae'n dorcalonnus ein bod wedi colli Sara oherwydd esgeulustod difrifol a diffyg gofal sylfaenol yn Ysbyty Stoke.
"Roeddem yn caru Sara. Mae'r bwlch ar ei hôl yn enfawr.
"Mae'n meddyliau ni gyda theulu Gemma Adran hefyd yn eu galar hwythau."
Mewn ymateb i gasgliad y crwner, dywedodd y bwrdd iechyd sy'n gyfrifol am Ysbyty Stoke - University Hospitals of North Midlands NHS Trust - fod "gwersi pwysig" wedi'u dysgu o'r achos.
Dywedodd Dr Matthew Lewis, Cyfarwyddwr Meddygol UHNM: "Hoffem estyn ein cydymdeimlad diffuant i deulu Sara Jones a derbyn yn llawn ganfyddiadau heddiw gan y crwner yn dilyn ei marwolaeth drist.
"Rydym wedi rhannu ein hymchwiliad llawn i amgylchiadau ei marwolaeth gyda'i theulu ac rydym yn cydnabod bod cyfleoedd i ni ddarparu gofal, a chyfathrebu, yn fwy effeithiol.
"Er nad yw'n gysur i'r teulu, rydym wedi dysgu gwersi pwysig o farwolaeth Ms Jones ac wedi adolygu ein harferion a'n gweithdrefnau sydd wedi arwain at welliannau yn y ffordd yr ydym yn darparu gofal."
Wrth gofnodi ei gasgliad, dywedodd y crwner y byddai'n cyhoeddi adroddiadau Atal Marwolaethau yn y Dyfodol i UHNM a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Dywedodd Mr Ritchie fod y methiannau wedi bod yn fwy difrifol yn achos yr ysbyty yn Stoke.
Diwrnod y gwrthdrawiad
Cafwyd tystiolaeth yn gynharach yn y cwest gan Gavin Davies, a oedd yn archwiliwr traffig fforensig gyda Heddlu Gogledd Cymru ar y pryd.
Wrth gyfeirio at ddiwrnod y gwrthdrawiad angheuol ar 30 Mawrth 2021, dywedodd fod car Seat Leon glas Ms Jones wedi croesi i ochr anghywir yr A4078 ger cylchfan Y Faenol.
Fe darodd ei char yn erbyn Honda Civic coch, yr oedd Ms Adran a'i phartner Warren Culato yn teithio ynddo.
Ychydig cyn y digwyddiad, roedd car tebyg i un Ms Jones wedi'i ddal ar gamerâu cylch cyfyng ym Mangor, ac roedd i'w weld yn "cael trafferth gydag ymwybod â gofod (spatial awareness)".
Nid oedd gan Mr Davies eglurhad am y weithred, ond daeth i'r casgliad mai'r rheswm mwyaf tebygol oedd mai "gweithredoedd dynol" Ms Jones oedd yn gyfrifol, ac y gallai hynny fod oherwydd "ei lefel o feddwdod".
Yn gynharach yn y cwest, darllenwyd datganiad gan y crwner ar ran rhieni Ms Jones lle roedden nhw'n disgrifio derbyn eiddo eu merch ar ôl y gwrthdrawiad.
Daethon nhw o hyd i bapur A4 ym mag cefn eu merch, gydag un gair Cymraeg mewn llawysgrifen arno'n dweud: "Sori".
Wrth archwilio ffôn symudol Ms Jones, dywedodd ei rhieni eu bod wedi canfod ei bod yn ôl mewn cysylltiad â'r actor Llion Williams, a bod hyn yn eu gwneud yn "bryderus".
Dywedodd Mr a Mrs Jones wrth y cwest fod y "berthynas" wedi cael "effaith andwyol ar hunan-barch ac iechyd meddwl Sara".
Ond wrth adrodd ei gasgliad, dywedodd y crwner nad oedd unrhyw beth i awgrymu nad oedd perthynas Llion Williams a Sara Jones yn ddim ond un gyfeillgar adeg y gwrthdrawiad.
Ychwanegodd Mr Ritchie nad oedd ef wedi ei argyhoeddi bod Ms Jones wedi achosi'r gwrthdrawiad angheuol yn fwriadol na chwaith ei bod wedi dymuno marw.
'Colled fawr'
Darllenwyd datganiadau i'r gwrandawiad hefyd gan Llion Williams.
Dywedodd Mr Williams eu bod wedi ffurfio cyfeillgarwch ac y byddai'n mynd i weld ei sioeau.
"I mi roedd y cyfeillgarwch yn blatonig yn unig. Rwy'n credu efallai ei bod wedi meddwl y gallai ein perthynas ddatblygu'n rhywbeth mwy rhamantus."
Dywedodd y gallai Ms Jones fod yn eitha' "trwm" ar adegau a'i fod wedi dweud wrthi nad oedd eisiau'r un peth.
Ychwanegodd fod marwolaeth Sara Anest Jones wedi effeithio'n "fawr" arno a bod ei marwolaeth yn golled fawr i'w theulu ac i'r byd actio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2023