Cwest yn agor i farwolaeth actores 'optimistaidd a sionc'

  • Cyhoeddwyd
Sara Anest Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sara Anest Jones yn "gwneud yn dda" adeg y gwrthdrawiad, medd ei theulu, er anhwylderau iechyd blaenorol

Mae cwest wedi agor yn achos marwolaeth actores ifanc addawol o'r gogledd, yn dilyn gwrthdrawiad ffordd a hefyd laddodd nyrs.

Bu farw Sara Anest Jones, 25, o Gorwen, mewn ysbyty ar 2 Ebrill 2021, dridiau wedi'r gwrthdrawiad ar gyrion Bangor.  

Bu farw Gemma Pasage Adran, nyrs 32 oed o'r Ffilipinau, yn y fan a'r lle.

Clywodd cwest i farwolaeth Ms Adran ym mis Mai y llynedd bod lefel alcohol Ms Jones deirgwaith dros y terfyn cyfreithlon i yrru adeg y gwrthdrawiad.

'Llawn bywyd ac egni'

Ar ddiwrnod cyntaf y cwest yn Stoke-on-Trent i farwolaeth Ms Jones, clywodd y gwrandawiad ei bod wedi cael triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau iechyd meddwl dros gyfnod o flynyddoedd.

Mewn datganiad gafodd ei ddarllen gan y Crwner Cynorthwyol, Duncan Ritchie, cafodd ei disgrifio gan ei thad Aled Jones fel merch "llawn bywyd ac egni".

"Roedd hi'n gwirioni ar helpu allan adref ar y fferm," dywedodd Mr Jones. "Roedd hi'n ddireidus, mewn ffordd dda, ac yn caru tynnu coes." 

Disgrifiad o’r llun,

Sara Anest Jones pan enillodd Wobr Richard Burton yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017

Roedd Ms Jones wedi ennill nifer o wobrau llenyddiaeth a drama, gan gynnwys Gwobr Richard Burton yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017.

Ond roedd hi hefyd wedi byw gyda'r anhwylder bwyta anorecsia a diffyg hunanhyder, ac wedi cael help gwasanaethau iechyd meddwl.

'Optimistaidd a hapus'

Dywedodd Mr Jones bod ei ferch yn gwneud "yn dda iawn" adeg y gwrthdrawiad.

"Roedd hi'n optimistaidd, yn sionc ac yn hapus," dywedodd. "Roedd hi'n edrych ymlaen at bethau da mewn bywyd."

Fe ddaeth y gwrthdrawiad, meddai, yn "sioc lwyr".

Dywedodd mam Ms Jones, Ann Jones wrth y Crwner Cynorthwyol bod ei merch wedi bod yn trafod cynlluniau ar gyfer y penwythnos a na allai "fyth fod wedi breuddwydio" yr hyn a ddigwyddodd iddi.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y cwest nad oedd unrhyw arwydd bod Sara Jones yn hunanladdol

Clywodd y cwest gan arbenigwyr iechyd meddwl a oedd wedi bod yn trin Sara Anest Jones. 

Dywedodd Dr Nicholas Horn, ymgynghorydd seiciatryddol clinigol gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ei fod wedi cwrdd â Ms Jones ar bedwar achlysur yn gynnar yn 2021.

Dywedodd bod "lefel o gymhlethdod" ynglŷn â'i hachos, yn cynnwys gorbryder, anhwylder bwyta a defnydd o alcohol.

Roedd hi'n gwneud yn dda gyda'r sesiynau, meddai, ac ar wahân i'r ffaith ei bod yn cael triniaeth gyda'r gwasanaeth iechyd meddwl, nid oedd unrhyw beth i awgrymu ei bod yn ystyried hunanladdiad.

Darllenwyd neges gan Hope Marshall, nyrs iechyd meddwl gyda'r bwrdd iechyd, oedd wedi bod yn delio â Ms Jones cyn iddi weld Dr Horn.

Dywedodd Ms Marshall nad oedd hi wedi dangos "unrhyw arwydd i mi ei bod hi'n hunanladdol".

Yn dilyn marwolaeth Ms Jones cafodd Dr Louise Brookwell, ymgynghorydd seiciatryddol clinigol gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ei phenodi i ymchwilio ac adolygu'r gofal a dderbyniodd.

Dywedodd wrth y Dirprwy Grwner nad oedd hi wedi gweld unrhyw fethiannau neu bryderon am driniaeth Ms Jones, nac unrhyw wersi y gellid eu dysgu o'i marwolaeth.

Anaf i'r coluddyn

Clywodd y cwest gan Dr Nicola Sommers, arweinydd clinigol meddygaeth frys yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, a welodd Sara Anest Jones ar 30 Mawrth 2021 yn dilyn y gwrthdrawiad.

Dangosodd scan CT ei bod wedi torri nifer o esgyrn, yn cynnwys padell yr ysgwydd (scapula), asennau, y pelfis, a'i braich, ynghyd ag anaf posib i'w iau.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4087 rhwng Tesco Bangor a chylchdro'r Faenol

Cafodd y sganiau eu hanfon ymlaen i ysbyty yn Stoke ble roedd Ms Jones ar ei ffordd i dderbyn rhagor o driniaeth, yn ogystal ag adroddiad radioleg rhagarweiniol oedd yn dweud na ellid disytyru anaf i'r coluddyn.

Roedd hylif "rhydd" o ardal y coluddyn yn bresennol, ond dywedodd Dr Sommers y gallai fod yn normal mewn merched o oedran cael plant.

Codwyd cwestiynau fodd bynnag a allai'r adroddiad radioleg llawn fod wedi cael ei anfon yn gynt y'r ysbyty yn Stoke.

Dywedodd Dr Sommers nad oedd hi'n gwybod pam ei bod hi wedi cymryd hirach na'r arfer i wneud, ond mai'r "flaenoriaeth yw anfon y claf at y gofal [ganolfan trawma] gorau".

Ataliad ar y galon

Dywedodd Dr Michael Greenway, pennaeth trawma clinigol bwrdd iechyd prifysgol Ysbytai Gogledd Canolbarth Lloegr, bod sganiau Ms Jones wedi cyrraedd yr ysbyty yn Stoke rhwng 23:30-00:00, cyn i'r claf gyrraedd yno.

Dioddefodd Ms Jones ataliad ar y galon ar 1 Ebrill 2021, a bu farw am 04:40 y diwrnod canlynol.

Fe wnaeth ymchwiliad post mortem ganfod bod gan Ms Jones rwyg 1cm yn ei choluddyn, a 900ml o hylif abdomenol.

Dywedodd Dr Greenway mai cofrestrydd iau a welodd Ms Jones pan gyrhaeddodd yr ysbyty, oherwydd bod cydweithiwr hŷn yn perfformio llawdriniaeth ar y pryd.

Chafodd hi mo'i harchwilio gan ymgynghorydd llawfeddygaeth cyffredinol ar y ward y bore canlynol.

Aeth 40 awr heibio cyn i'r adroddiad radioleg llawn gyrraedd yr ysbyty, ac ni chafodd ail sgan CT ei gynnal am bod Ms Jones erbyn hynny yn rhy aflonydd.   

Roedd cyflwr Ms Jones yn dirywio erbyn y diwrnod wedyn, ond ni chafodd yr wybodaeth ei basio ymlaen i'r uwch feddygon gan y tîm nyrsio.

Nid oedd Dr Greenway yn gwybod beth oedd y rheswm am hyn.

Gofynnodd y dirprwy grwner i Dr Grenway os oedd diffyg adroddiad radioleg, y ffaith nad oedd ymgynghorydd llawfeddygaeth cyffredinol wedi ei harchwilio, a'r ffaith bod nyrsys heb basio gwybodaeth am ei chyflwr ymlaen i'r meddygon, i gyd yn agweddau sylfaenol o ofal a ddylai fod wedi digwydd? 

Atebodd Dr Greenway "oedd" i bob un.

Mae'r cwest yn parhau.

Pynciau cysylltiedig