Y Gynghrair Genedlaethol: Dagenham & Redbridge 0-4 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Ollie PalmerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Trwy rwydo ddwywaith nos Fawrth, mae Ollie Palmer wedi sgorio 16 o goliau ers dechrau'r tymor

Mae Wrecsam wedi agor y bwlch ar frig y Gyngrair Genedlaethol yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus oddi cartref - o bedair gôl i ddim - yn erbyn Dagenham & Redbridge.

Fe rwydodd Ollie Palmer gôl gyntaf y noson wedi chwe munud ac fe ddyblodd Jordan Tunnicliffe y fantais cyn yr egwyl.

Sgoriodd Palmer am yr eildro yn fuan yn yr ail hanner cyn i Jacob Mendy rwydo gydag 20 munud i fynd yn Victoria Road.

Mae Wrecsam nawr ag 88 o bwyntiau - pedwar yn fwy na Notts County - gyda 10 gêm ar ôl i'w chwarae.