Lola James: Merch, 2, wedi marw ar ôl 'ymosodiad ciaidd'
- Cyhoeddwyd
Clywodd llys fod merch fach llawn bywyd wedi marw o ganlyniad i ymosodiad ciaidd a threisgar gan bartner ei mam yn Sir Benfro.
Bu farw Lola James, a oedd yn ddwy oed, ychydig ddyddiau ar ôl yr ymosodiad yn ei chartref yn Hwlffordd ym mis Gorffennaf 2020.
Mae Kyle Bevan, 31 oed o Aberystwyth, yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.
Mae mam Lola, Sinead James, sy'n 30 oed, yn gwadu achosi neu ganiatáu marwolaeth ei merch.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Sinead James wedi mynd i'r gwely yn gynnar ar y noson dan sylw ond iddi gael ei deffro tua hanner nos gan glec fawr a sgrech.
Fe ddaeth hi o hyd i Mr Bevan yn ystafell Lola. Roedd e'n magu'r plentyn gan ddweud ei bod hi wedi taro ei phen. Fe ddychwelodd Sinead James i'r gwely.
Yn ôl yr erlyniad roedd lluniau ar ffôn symudol Mr Bevan yn dangos bod y ferch fach ar ei thraed tua 04:30, ond erbyn 06:30 roedd hi wedi diodde' anafiadau pen catastroffig.
Rhoi bai ar y ci
Yn hytrach na ffonio am ambiwlans, meddai'r erlyniad, fe dreuliodd Mr Bevan awr yn tynnu lluniau o anafiadau Lola ar ei ffôn ac edrych am wybodaeth ynglŷn ag anafiadau pen.
Fe gyrhaeddodd parafeddygon tua 07:30 a hynny o fewn munudau i gael eu galw.
Dywedodd Mr Bevan wrthyn nhw fod Lola wedi syrthio lawr y grisiau.
Cafodd y ferch fach ei throsglwyddo o Ysbyty Llwynhelyg i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd lle daethon nhw o hyd i 101 o anafiadau ar ei chorff.
Roedd hi wedi diodde' anafiadau i'w llygaid ac wedi diodde' anafiadau catastroffig i'w hymennydd.
Bu farw ar 21 Gorffennaf.
Yn ôl yr erlyniad fe geisiodd Kyle Bevan guddio'r hyn yr oedd wedi ei wneud drwy feio ci'r teulu am achosi damwain ac awgrymu fod Lola wedi syrthio lawr y grisiau.
'Tymer drwg'
Yn hytrach, meddai'r erlyniad, roedd hi wedi dioddef ei hanafiadau o ganlyniad i ymosodiad gwyllt, ciaidd a threisgar gan ddyn y dylai hi fod yn gallu ymddiried ynddo.
Doedd Sinead James ddim yn rhan o'r ymosodiad hwnnw, meddai'r erlyniad, ond roedd hi yn ymwybodol o dymer drwg Mr Bevan, yn enwedig pan fyddai'n defnyddio cyffuriau.
Roedd hi'n gwybod ei fod yn peri bygythiad i ddiogelwch ei merch ond methodd hi â'i gwarchod.
Clywodd y llys am gyfres o negeseuon rhwng y ddau fel enghreifftiau o Lola'n dioddef anafiadau tra bod Bevan yn gofalu amdani.
Mewn neges ar 19 Ebrill dywedodd ei fod yn "gobeithio ei bod hi wedi dysgu i beidio â chwarae ar y grisiau", ac wythnos yn ddiweddarach fe ddisgrifiodd hi fel "plentyn dwl" ar ôl iddi grafu ei gen, gan ddweud iddi syrthio.
Ar 4 Mai anfonodd neges yn egluro anaf i wefus y plentyn, gan ddweud wrth Sinead James: "Dwi'n teimlo nad wyt ti'n ymddiried yndda'i bellach."
Roedd ffrindiau Sinead James yn poeni am ei ymddygiad, ac ar 10 Mai roedd yna neges ganddo yn cydnabod ei fod yn achosi braw iddi hi a'i phlant.
"Rwy'n teimlo fel anghenfil," meddai.
Gwadu'r cyhuddiad
Clywodd y llys y byddai Mr Bevan yn dadlau fod y ferch fach wedi syrthio ddwywaith ar y noson dan sylw, unwaith o'r ysgol ar wely bync ac yna lawr y grisiau tra'i fod e'n paratoi brecwast.
Mae Kyle Bevan yn gwadu mai ef achosodd anafiadau Lola.
Bydd Sinead James yn dadlau nad oedd hi'n gwybod dim am amgylchiadau anafu ei merch am ei bod hi'n cysgu.
Mae hi'n gwadu gweld Mr Bevan yn ymddwyn yn ymosodol neu'n dreisgar.
Mae disgwyl i'r achos bara pedair wythnos.