Carcharu llanc am ymosod â chyllell ar lwybr yn Aberaeron
- Cyhoeddwyd
Mae llanc 19 oed wedi cael ei garcharu am saith mlynedd am ymosod a dwyn gyda chyllell ar lwybr cerdded yn Aberaeron.
Roedd Christopher Samuel o Lanrhystud yn rhan o ddau ddigwyddiad y llynedd ar lwybr ger Afon Aeron yn y dref.
Roedd y cyntaf o'r rheiny ym mis Gorffennaf 2022, ble cafodd dyn ei ddyrnu, ei gicio a'i daflu i'r afon gan dri llanc, oedd hefyd wedi dwyn ganddo.
Bryd hynny cafodd Samuel, Dylan Tapp, 18, a llanc 17 oed na ellir ei enwi, eu hadnabod gan yr heddlu fel yr ymosodwyr posib.
Deufis yn ddiweddarach roedd digwyddiad arall ar yr un llwybr, ble cafodd dau berson eu bygwth gyda chyllell, a cafodd un ohonynt ei daro yn ei wyneb.
Cafodd Samuel, Mr Tapp a'r bachgen 17 oed eu harestio a'u cyhuddo mewn cysylltiad â'r digwyddiadau.
'Cymeriad ofnadwy'
Fe wnaeth Samuel bledio'n euog i gyhuddiadau o ladrad, ymosod gan achosi niwed corfforol, achosi cythrwfl (affray) a bod â chyllell yn ei feddiant yn gyhoeddus, ac fe gafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd o garchar.
Fe wnaeth Mr Tapp wadu cyhuddiadau o ladrad, bod â chyllell yn ei feddiant yn gyhoeddus a chodi braw ar dyst, ac fe'i gafwyd yn ddieuog o'r tri chyhuddiad gan reithgor mewn achos llys.
Dedfrydwyd y llanc 17 oed i bedwar mis o garchar ar ôl pledio'n euog i achosi niwed corfforol, achosi cythrwfl, bod ag arf bygythiol yn ei feddiant a bod â chanabis yn ei feddiant.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Adam Cann o Heddlu Dyfed-Powys: "Roedd y rhain yn ddigwyddiadau arbennig o gas a gynhaliwyd yng ngolau dydd mewn man cyhoeddus, ac yn ddealladwy, achosodd hyn bryder yn yr ardal.
"Dim ond yn ddiweddar yr oedd Samuel wedi dod allan o'r carchar am ymosodiad oedd yn ymwneud â chyllell, cyn cyflawni'r troseddau hyn yn Aberaeron.
"Mae'r ffaith ei fod wedi parhau i droseddu'n dangos ei gymeriad ofnadwy, a gobeithiwn fod y ddedfryd hon yn profi iddo ef - ac eraill sy'n mynnu cario arfau - na fyddwn yn dioddef ymddygiad bygythiol a threisgar."