Emyr Lewis a'r 'wyrth' wnaeth newid ei fyd

  • Cyhoeddwyd

"O'n i'n methu arbed y dagrau - oedd e fel yr euogrwydd i gyd yn dod allan o'n nghorff i. Des i mas o 'na fel bod y faich enfawr hyn wedi cael ei godi o nghorff i."

Newidiodd bywyd y cyn chwaraewr rygbi rhynglwadol Emyr Lewis ar ôl y profiad ysgytwol yma.

Enillodd Emyr 41 o gapiau dros Gymru rhwng 1991 a 1996 a bu'n chwarae i dimau Llanelli a Chaerdydd yn ystod ei yrfa ond mae'n dweud erbyn hyn taw ei ffydd Gristnogol sy' wedi rhoi hapusrwydd a sicrwydd iddo.

Bu Emyr yn siarad am ei ffydd gyda John Roberts ar raglen Yr Oedfa ar Radio Cymru ar Mawrth 12.

Mae ei stori yn cychwyn mewn capel yn y Porth yn Rhondda:

Ffynhonnell y llun, Emyr Lewis

Oedd e'n (gapel) caled iawn, rhan helaeth o nhw (aelodau) yn chwaraewyr rygbi gynt. Bois caled iawn, bois crefyddol iawn â ffydd cadarn yn Nuw.

Oedd pethau mor gyfforddus a cartrefol draw 'na - capel cyffredin iawn ond capel le oedd y teimlad yn iawn pryd o'n i'n cerdded mewn yna.

Oedd pethau ddim yn mynd yn iawn rhwng y wraig a fi a dywedodd hi bod rhaid i fi edrych am fy nghwmpawd moesol i so es i 'na gyda Garin Jenkins (cyn fachwr tîm rygbi Cymru) - i ddangos i'r wraig mod i'n fodlon gwneud rhywbeth i achub fy mhriodas.

Gerddais i drwy'r drws ac aeth y trydan bant fel bod fi'n cerdded drwy'r drws. Oherwydd hynny gorffon nhw newid y gwasanaeth yn gyfan gwbl a gorfod i un o'r oedolion roi ei dystiolaeth e i ni.

Pryd ddywedodd e ei dystiolaeth, oedd e mwy neu lai gwmws yr un tystiolaeth â beth fydden i wedi rhoi ar y munud 'na, onibai am y ffaith oedd e'n mynd mas i ymladd yn y nos a o'n i'n mynd mas i neud y gwrthwyneb.

'Y fi nawr yn grediniol fod y gwasanaeth wedi cael ei newid yn bwrpasol gyda'r ysbryd glân er mwyn i fi glywed y dystiolaeth hyn.

Ffynhonnell y llun, Emyr Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Emyr wrth ei waith fel sylwebydd rygbi

Darganfod ffydd

Bues i'n mynd (i'r eglwys) am rhyw dri mis ac o'n i lan 'na un diwrnod yn y gwasanaeth. Arhosodd rhywun lan ar ddiwedd y gwasanaeth a gofynnodd os oedd unrhyw un mo'yn rhoi ei fywyd dros Grist i ddod i'r blaen - cododd pedwar lan ac wedyn es i lan i'r blaen, anghofia i byth mo' fe.

Eisteddais i yn y ffrynt a dechreuais i grio a bues i'n crio am 20 munud. O'n i'n methu arbed y dagrau - oedd e fel yr euogrwydd i gyd yn dod allan o'n nghorff i. Des i mas o 'na fel bod y faich enfawr hyn wedi cael ei godi o nghorff i.

Just y ffaith bod fi wedi agor fy nghalon lan. Dyna'r broblem fwyaf, mae pobl yn edrych ar ffydd ac maen nhw'n ofn, yn enwedig dynion - maen nhw'n ofn agor eich calonau lan. Os nad 'ych chi'n agor eich calon 'dych chi ddim yn mynd i glywed dim byd.

Fi dal ar y siwrne, sut gymaint o weithie fi'n clywed Iesu yn galw. Mae lot o bobl yn anwybyddu fe ond pan glywes i e y tro hyn o'n i'n meddwl bod rhaid i fi godi lan a mynd i flaen yr eglwys a rhoi fy mywyd i Iesu.

'Y wyrth'

O'n i'n arfer gweithio yng Nghaerdydd i gwmni oedd yn gwerthu peiriannau ffotocopïo.

Roedd 'na gwmni yn edrych am ffotocopïwr a gofyn os oedd modd dod lawr nawr i Ffald y Brenin (canolfan Gristnogol yn Sir Benfro).

Droies i lan 'na a dechrau siarad gyda'r ddynes tu ôl i'r ddesg. Wedodd hi bod gwyrthiau 'na a bod Cristnogion yn mynd 'na i addoli Duw.

Wedodd hi 'des i i weithio 'ma chwe mlynedd yn ôl ac o'n i mewn cadair olwyn a nawr dwi'n cerdded, dim byd yn bod ar fi.'

Aeth hi â fi i'r capel. Wedodd hi 'can I bless you?' Wedes i iawn - unrhyw beth i werthu llungopïwr!

Gweddïodd hi drosto fi a deimlais i'r teimlad twym hyn yn mynd trwy fy nghorff i. Yn y diwedd gorffes i eistedd lawr. Edrychodd hi arna'i fel bod hi'n gwybod fod rhywbeth wedi digwydd i fi yn ystod y foment 'na.

Es i mas i'r car, dechreuais i yrru bant ond oedd rhywbeth yn neud i fi droi rownd. Droies i rownd a 'na gyd o'n i'n gallu gweld trwy'r niwl a'r glaw oedd pelydrau'r haul yn syth ar y groes. Ges i ias oer yn mynd drwy nghorff i.

Anghofia'i byth e.

O'n i heb ddod yn Gristion nes rhyw flwyddyn yn ddiweddarach. Ond fan 'na ga'th yr hedyn ei hau.

Oedd e'n neges - rhyw fath o wyrth. Does dim cyd-ddigwyddiadau i gael yn y byd hyn. Mae wastad trywydd 'da chi i fynd, mae lan i chi i benderfynu beth yw'r trywydd. Mae wastad trywydd cywir a'r trywydd cywir yw'r caleta'.

Fi wastad yn cael fy nhemptio, pechaduriaid 'y ni ac ni yn mynd i gael ein temptio ond drwy weddïo ac ati mae'n cadw ni ar y trywydd cywir.

O'n i'n pechu'n aml, o'n i ddim yn byw bywyd glân Cristnogol ac oedd angen gwyrth i newid fy meddylfryd a 'mywyd i.

Bywyd ysbrydol

Fel chwaraewyr rygbi ac fel unrhyw un sy'n uchelgeisiol a ceisio bod y gorau mewn unrhyw beth chi'n gorfod bod yn hunanol iawn ac o'n i yn hunanol. Pwy o'n i'n rhoi gynta' yn fy mywyd i? Fi.

O'n i'n meddwl 'sen i'n aberthu bod ar y brig, bydde llai o amser 'da fi i neud beth o'n i moyn neud.

Nawr yr Iesu sy' ar y brig, wedyn y wraig, wedyn y plant a wedyn fi ar y gwaelodion rhywle.

Ond nawr mae mwy o amser gyda fi na beth oedd gyda fi pan o'n i ar y brig.

Mae'n ffydd i yn Duw yn aruthrol ac yn cryfhau bob dydd.

Perthynas gyda Crist

Dwi'n byw yng nghyffiniau (traeth) Merthyr Mawr - pan fi lawr yn y traeth yn y bore gyda'r cŵn dwi'n cael presenoldeb yr Arglwydd yna. Fe a fi, gyda'n gilydd. A dwi'n cael cyfle i weddïo.

Mae fe'n deimlad mor hyfryd i gael y berthynas 'na gyda'r Arglwydd. Dwi'n siarad gyda Duw.

Dwi'n hynod ddiolchgar o beth mae Duw yn wneud yn fy mywyd i bob dydd.

Dangos ffydd

Mae agwedd pobl wedi newid (at Dduw) yn enwedig ymysg chwaraewyr rygbi. Nawr mae pobl yn fwy agored ato Fe. Mae lot o hyn wedi digwydd achos fod chwaraewyr Ynysoedd y De yn agored at ffydd. Mae fe'n rhywbeth hollol naturiol iddyn nhw.

Dwi ddim yn poeni am beth sy'n dod fory - dwi wedi tywallt fy maich ar ysgwyddau Iesu Grist.

Mae'r ansicrwydd a'r casineb yn y byd ar hyn o bryd - mae 'na heddwch mewnol yn perthyn i fi oherwydd y ffydd hyn.

Dwi'n gwybod fod Iesu wedi bod i'r groes ac wedi cymryd y faich hyn oddi wrthaf i.

Pynciau Cysylltiedig