Y Bencampwriaeth: Preston 2-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Kion Etete o Gaerdydd yn herio Bambo Diaby am y bêlFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Kion Etete o Gaerdydd yn herio Bambo Diaby am y bêl

Colli oddi cartref o ddwy gôl i ddim oedd hanes Caerdydd yn erbyn Preston North End yn Deepdale brynhawn Sadwrn yn y Bencampwriaeth.

I ychwanegu halen at y briw, bu'n rhaid i'r Adar Gleision chwarae gyda 10 dyn am gyfnod wedi i gôl-geidwad gael ei hel o'r maes am yr ail gêm yn olynol.

Roedd hynny wedi i Jak Alnwick weld cerdyn coch yn y munudau olaf am drosedd hwyr yn erbyn Tom Cannon.

Cannon wnaeth sgorio gôl gyntaf Preston (68) cyn i'r Cymro Ched Evans ddyblu'r fantais yn y cyfnod ychwanegol ar ddiwedd y gêm.

Golyga'r canlyniad bod Caerdydd yn aros yn 21ain safle'r tabl, chwe phwynt uwchben y safleoedd cwymp, tra bod Preston yn codi i'r 11eg safle.