Abertawe: Dyn wedi marw ar ôl i ffrwydrad nwy ddinistrio tai

  • Cyhoeddwyd
TreforysFfynhonnell y llun, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd un tŷ ei ddymchwel yn llwyr, a chafodd sawl tŷ arall ei ddifrodi'n sylweddol

Mae dyn wedi marw ar ôl ffrwydrad nwy yn Abertawe fore Llun.

Cafodd tri o bobl eraill eu cymryd i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad yn ardal Treforys am tua 11:20.

Cadarnhaodd Heddlu'r De nos Lun eu bod wedi dod o hyd i gorff dyn a oedd ar goll. Mae ei deulu wedi cael gwybod.

Mae lluniau o'r digwyddiad yn dangos fod un tŷ wedi dymchwel yn llwyr, a difrod sylweddol i sawl tŷ arall.

Yn y cyfamser, mae un oedolyn a phlentyn a gafodd eu cludo i adran achosion brys Ysbyty Treforys bellach wedi'u rhyddhau.

Mae oedolyn arall yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau trawma, ac mae mewn cyflwr sefydlog, meddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe mewn datganiad nos Lun.

Mae cymdogion wedi dweud mai dyn o'r enw Brian Davies ydy un o'r bobl a gafodd eu dal yn y digwyddiad.

Disgrifiad,

Y golygfeydd dychrynllyd yn yr ardal yn y munudau wedi'r digwyddiad. Fideo gan Alamgir Hossain

Dywedodd cwmni nwy Wales & West Utilities nad yw'n eglur eto beth achosodd y ffrwydrad, ond bod y difrod yn "ddifrifol".

Yn ôl gohebydd BBC Cymru, Aled Huw, roedd "arogl nwy yn amlwg" wrth gyrraedd yr ardal yn gynnar brynhawn Llun.

Bydd ymchwiliad yn digwydd i sefydlu achos y digwyddiad, meddai Heddlu'r De.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) hefyd wedi cael gwybod.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Yn siarad yn gynharach brynhawn Llun, dywedodd arweinydd y cyngor sir nad oedd yn credu fod yr anafiadau i'r tri pherson sydd yn yr ysbyty yn rhai sy'n peryglu eu bywydau.

"Cafodd un ohonynt eu dal yn y ffrwydrad wrth iddyn nhw gerdded heibio," meddai Rob Stewart ar Radio Wales.

"Rwy'n credu bod gan y ddau arall fân anafiadau, ond mae'r darlun yn newid yn gyson."

Ychwanegodd fod tua 100 o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi yn sgil y digwyddiad.

Cafodd cyflenwad trydan 212 o gartrefi cyfagos ei droi i ffwrdd am rai oriau oherwydd rhesymau diogelwch.

Dywedodd y cyngor y bydd yn sicrhau fod llety ar gael nos Lun i'r rheiny na fydd yn gallu dychwelyd i'w cartrefi.

Ffynhonnell y llun, Robert Melen
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Wales & West Utilities nad yw'n eglur eto beth achosodd y ffrwydrad

Mae'r gwasanaethau brys yn gofyn i bobl osgoi'r ardal, ger cyffordd Clydach Road a Field Close.

Ffynhonnell y llun, Robert Melen

Dywedodd Marjorie Lewis, sy'n byw dros y ffordd i'r digwyddiad, fod bachgen wedi cael ei dynnu o'r rwbel yn dilyn y digwyddiad.

"Fe wnes i ffonio'r heddlu yn syth wedi iddo ddigwydd - roedden nhw yma o fewn dau neu dri munud," meddai wrth BBC Cymru.

"Roedd [y ffrwydrad] yn swnio'n ofnadwy - cafodd yr holl dai eu hysgwyd."

Dywedodd Ms Lewis fod pedwar neu bum tŷ wedi cael eu difrodi yn y digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd malurion eu taflu ar hyd y stryd ac i erddi pobl gerllaw

Ychwanegodd Donn a Donna Fernandez, sydd hefyd yn byw gerllaw, eu bod wedi achub plentyn yn ei arddegau o'r adeilad.

"Nes i ddod mas o'r tŷ a gweld y plentyn yn ei arddegau sy'n byw drws nesaf yn rwbel y tŷ, ger y to," meddai Mr Fernandez.

"Nes i a'n cymdogion ei gael e mas - dim ond tua 13 yw e."

Disgrifiad o’r llun,

"O'n i'n sylweddoli ei fod e'n ffrwydrad o'r funud gyntaf achos y sŵn," meddai'r Cynghorydd Ceri Evans

Dywedodd y Cynghorydd Ceri Evans, sy'n byw llai na milltir o'r digwyddiad, fod "pawb yn bryderus iawn am beth sydd wedi digwydd".

"Digwydd bod, ro'n i'n gweithio gartref, ac fe wnaeth yr holl dŷ ysgwyd," meddai.

"Fe wnaeth y ffenestri ysgwyd - roeddech chi'n gallu clywed e. Wnes i redeg mas i'r stryd, ac roedd y cymdogion i gyd mas hefyd.

"O'n i'n sylweddoli ei fod e'n ffrwydrad o'r funud gyntaf achos y sŵn."

Ffynhonnell y llun, Robert Melen
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tai sydd wedi'u difrodi ar y gyffordd rhwng Clydach Road a Field Close

Ychwanegodd: "Mae'n stryd brysur iawn. Mae e ar bwys Lidl felly mae pobl yn siopa 'na, a dyw ysgolion ddim mor bell o'r safle.

"Mae lot o bobl sy'n byw ar y stryd wedi mynd gyda theulu a ffrindiau, ond mae rhai pobl heb rywun i helpu nhw so maen nhw yn y neuadd goffa.

"Y cynllun yw, os mae'n rhaid iddyn nhw aros dros nos, bydd ystafelloedd mewn gwestai yn cael eu darparu."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dyma lun o'r un safle ym mis Mai 2022

Mae Clwb Pêl-droed Treforys wedi agor y clwb i bobl leol sydd ei angen yn dilyn y digwyddiad, yn ogystal â Neuadd Goffa Treforys.

"Rydym yn drist iawn i glywed am beth sydd wedi digwydd ar Clydach Road/Field Close," meddai'r clwb.

"Rydyn ni'n gobeithio bod pawb yn iawn. Os allwn ni wneud unrhyw beth i helpu trigolion lleol, peidiwch oedi i gysylltu gyda ni."

Ffynhonnell y llun, Alix Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae dau o hofrenyddion yr Ambiwlans Awyr wedi glanio ar gae pêl-droed ger y digwyddiad

Mae staff sefydliad y Groes Goch yn y clwb pêl-droed hefyd er mwyn "rhoi cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i'r rheiny sydd ei angen".

Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap BBC Cymru Fyw ar Google Play, dolen allanol neu App Store, dolen allanol.

Pynciau cysylltiedig