Llifogydd mewn mannau a rhybudd o law ar y ffordd
- Cyhoeddwyd
Mae llifogydd wedi gorfodi ffyrdd yn y canolbarth i gau fore Mawrth ar ôl cawodydd trwm dros nos.
Daeth rhybudd am eira a rhew i ben am 10:00 fore Mawrth, ond bellach mae rhybudd melyn arall am law wedi ei gyhoeddi ar gyfer dydd Iau.
Mae disgwyl i law trwm achosi amodau teithio anodd ar draws y mwyafrif o Gymru rhwng hanner nos a 15:00 prynhawn dydd Iau.
Mae'r rhybudd mewn lle ar gyfer siroedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Wrecsam.
Ddydd Mawrth, y glaw sydd wedi achosi'r rhan fwyaf o'r trafferthion, gyda'r A490 ger Y Trallwng ar gau yn y ddau gyfeiriad rhwng yr A458 a maes awyr Y Trallwng.
Yng Ngwynedd, mae Pont Dyfi ger Machynlleth hefyd ar gau.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi fod un rhybudd llifogydd mewn lle yng Nghei'r Trallwng a Threwern, gan rybuddio y gallai effeithio ar ragor o ffyrdd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2023