Grŵp Cynefin: Uwch swyddogion yn 'camu'n ôl o'u swyddi'
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr un o gymdeithasau tai mwyaf Cymru wedi "camu yn ôl" o'i swydd yn dilyn cais gan y bwrdd.
Mae Shan Lloyd Williams wedi bod yn brif weithredwr ar Grŵp Cynefin, cymdeithas dai sydd â mwy na 300 o staff, ers 2018.
Mewn e-bost a gafodd ei anfon at staff ddydd Mercher, sydd wedi ei weld gan BBC Cymru, fe ddywedodd y grŵp fod "adolygiad o rai meysydd" wedi cael ei gynnal.
Yn dilyn cyfarfod nos Fawrth, dywed bod y "Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Adnoddau yn camu'n ôl o'u swyddi am y tro".
Mewn datganiad, fe gadarnhaodd llefarydd ar ran Grŵp Cynefin fod y ddau wedi gadael eu swyddi a bod "Tîm Arweinyddiaeth dros dro yn ei le".
Fe gadarnhaodd yr e-bost i staff fod Cyfarwyddwr Adnoddau, Bryn Ellis hefyd wedi camu'n ôl o'i swydd.
'Edrych am gefnogaeth allanol'
Grŵp Cynefin yw'r unig gymdeithas dai sydd â thai ar draws bob un o'r chwe sir yng ngogledd Cymru a gogledd Powys ac mae'n cyflogi dros 300 aelod o staff.
Mae'r gymdeithas yn darparu tai a chefnogaeth i gymunedau.
Mae'r e-bost a anfonwyd i staff yn dweud y bydd y newidiadau i'r tîm arweinyddiaeth yn dod i rym "o heddiw ymlaen".
"Fel y gwyddoch efallai, mae Grŵp Cynefin, wedi bod yn cynnal adolygiad o rai meysydd o'n gwaith - yn enwedig yn ymwneud â sut rydym yn rheoli asedau sut rydym yn cadw cofnodion.
"Yn dilyn cyfarfod neithiwr, mae'r bwrdd wedi gofyn i'r Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Adnoddau gamu'n ôl o'u swyddi am y tro."
Fe ddywedodd Grŵp Cynefin mewn e-bost i staff y byddan nhw hefyd yn "edrych am gefnogaeth allanol i'r grŵp" er mwyn eu cynorthwyo yn y "tymor byr".
Dywedodd hefyd fod "camau sylweddol eisoes wedi eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion" sydd wedi dod i sylw'r grŵp fel rhan o'r adolygiad.
Mae gan y gymdeithas dros 4,500 o dai ar draws gogledd Cymru a'r ardal ehangach.
Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran Grŵp Cynefin fod y bwrdd rheoli wedi gofyn i'r prif weithredwr a chyfarwyddwr adnoddau gamu'n ôl o'u swyddi am y tro.
"Rydym am sicrhau tenantiaid a chwsmeriaid na fydd y penderfyniad hwn yn effeithio ar unrhyw un o'n gwasanaethau a bydd ein gweithgareddau yn ein cymunedau yn parhau fel arfer," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2018