Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-1 West Brom

  • Cyhoeddwyd
Sory KabaFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Yr eilydd Sory Kaba yn dathlu ei gôl yn yr ail hanner

Llwyddodd Caerdydd i daro yn ôl yn yr ail hanner i gipio pwynt gartref yn erbyn West Brom yn y Bencampwriaeth.

Fe aeth yr Adar Gleision ar ei hôl hi wedi 17 munud, wrth i'r ymosodwr Daryl Dike rwydo o groesiad.

Ar yr egwyl fe ddaeth Sory Kaba ymlaen yn lle'r Cymro ifanc Isaak Davies, oedd wedi dod yn agos gyda chyfle yn yr hanner cyntaf.

A Kaba oedd yn gyfrifol am unioni'r sgôr, wrth benio croesiad Ryan Wintle i gefn y rhwyd.

Er i'r ddau dîm gael cyfleoedd i ennill yr ornest, gorffen yn hafal wnaeth hi yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn aros yn 21ain yn y Bencampwriaeth, bedwar pwynt uwchben safleoedd y cwymp.