'Gorlenwi a phwysau mawr yn adran frys Ysbyty Glangwili'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Roedd yr adran "dan bwysau syfrdanol", medd Dr Rhys Jones, pennaeth uwchgyfeirio a gorfodaeth AGIC

Mae'r corff sy'n arolygu gofal iechyd yng Nghymru wedi galw am welliannau yn dilyn pryder nad oedd cleifion yn cael gofal diogel yn gyson yn adran frys un o ysbytai'r gorllewin.

Daw'r adroddiad yn sgil arolygiad dirybudd yn Adran Frys Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, a barodd am dridiau fis Rhagfyr.

Yn ôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) roedd pryderon am orlenwi, a phwysau mawr ar yr adran er gwaethaf ymdrechion gorau aelodau staff.

Dywed Bwrdd Iechyd Hywel Dda bod yna gynllun gwelliannau i fynd i'r afael â "heriau sylweddol o fewn yr adran" a bod ysbytai'r GIG ar draws Cymru'n wynebu'r un trafferthion.

Cleifion yn 'fodlon yn gyffredinol'

Er bod cleifion a gofalwyr "yn fodlon yn gyffredinol gyda'r gwasanaeth", mae'r adolygwyr yn awgrymu darlun gwael o'r amodau yn yr ysbyty.

Roedd cleifion yn rhwystredig gydag amseroedd aros, ac yn teimlo eu bod angen mwy o wybodaeth wrth aros ynglŷn â'u gofal.

Roedd pobl yn wynebu oedi hir yn yr adran frys yn sgil trafferthion llif cleifion trwy'r ysbyty, ac roedd yna dystiolaeth o orlenwi a diffyg adnoddau tŷ bach ac ymolchi.

Roedd rhai cleifion wedi "gorfod cysgu ar gadeiriau neu ar y llawr am gyfnodau hir", a phlant wedi gorfod aros "yn y brif ardal aros weithiau, a oedd yn anaddas iddynt".

Dywedodd staff wrth yr arolygwyr bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cymryd camau positif o ran iechyd a lles, ond roedden nhw'n anfodlon gyda'r ffordd y gwnaethon nhw ddelio â phroblemau sy'n cael eu huwchgyfeirio.

Roedd yna anfodlonrwydd hefyd ynghylch lefelau staffio yn gyffredinol.

Ffynhonnell y llun, GIG Cymru

Nododd AGIC bod y bwrdd iechyd wedi llunio cynllun manwl o gamau i wella'r sefyllfa, ond bod yr adroddiad yn amlygu'r pwysau dwys sy'n parhau ar adrannau brys ar draws Cymru, a gwasanaeth sy'n brwydro i ddygymod â'r galw arno.

Dywed Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod "ymroddiad a gwaith caled ein staff" a bod cleifion a gofalwyr yn fodlon yn gyffredinol gyda gwasanaeth yr adran.

"Rydym, fodd bynnag, yn cydnabod bod yna heriau sylweddol o fewn yr Adran," meddai'r cyfarwyddwr gweithrediadau, Andrew Carruthers.

"Rydym hefyd yn cydnabod effaith hynny ar ein cleifion a'u profiad o ddefnyddio ein gwasanaethau.

"Dyw'r heriau hyn ddim yn unigryw i Ysbyty Glangwili, ac maen nhw hefyd yn wynebu'r GIG ar draws Cymru a'r DU.

"Hoffwn roi sicrwydd i bobl ein bod yn canolbwyntio ar ein cynllun gwella i fynd i'r afael â'r argymhellion yr adroddiad, ac i'n cymunedau o ran safon y gwasanaethau rydym yn eu cynnig a darparu."