Mam-gu, 90, mewn cadair am dri diwrnod yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae wyres menyw 90 oed a dreuliodd dri diwrnod mewn cadair yn yr uned gofal brys wedi dweud fod y pwysau sydd ar y GIG yn "erchyll".
Fe gafodd Morwen Griffiths o Geredigion gyngor i fynd i'r ysbyty gan fod y meddyg teulu yn credu fod ganddi sepsis.
Ond pan gyrhaeddodd Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ar 30 Rhagfyr gyda thrafferthion anadlu a gwres uchel, doedd dim gwely ar gael.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda fod cleifion yn aros yn hirach na'r arfer yn eu hunedau brys a'u bod yn ymddiheuro am y pryder allai hynny achosi.
Mae wyres Mrs Griffiths, Caryl Griffiths, sy'n 27 oed ac o Langrannog, wedi disgrifio'r sefyllfa "afiach" yn yr uned gofal brys.
"Aethon ni i'r GP, 'naeth e brofion a pethe', odd e'n meddwl falle o'dd sepsis arni.
"Wedodd e wrthon ni bryd 'ny i beidio boddran mynd i Bronglais, doedd dim gwelyau 'na, o'dd e'n gwbod, felly aethon ni i Glangwili.
"O'n ni'n disgwyl - achos o'n nhw'n disgwyl Mam-gu i fod 'na - byse' gwely... ond arhoson ni fan 'na am beth oedd yn teimlo fel hiroes.
"Odd low oxygen levels gyda hi, felly oedd hi'n gorfod bod 'na."
Fe ddisgrifiodd yr olygfa o weld "10 o ambiwlansys tu fas yn actio fel 'stafelloedd".
"Pobl yn y coridorau, gwelyau ym mhob man... o'dd pawb ar ben ei gilydd ac o'dd e jyst yn afiach," meddai.
Yn ôl Caryl, roedd Mrs Griffiths yn eistedd ar gadair yng nghanol yr uned gofal brys am dri diwrnod llawn.
Fe gafodd wely mewn coridor ac yna mewn ystafell am un noson cyn dod adref, yn ôl y teulu.
"O'dd y nyrsys a phob dim mor arbennig iddi, ond y ffaith nad oedd gwely tan ddiwedd y trydydd diwrnod, a hynny ar goridor, wedd e jyst yn afiach, yn enwedig i ddynes 90 oed," meddai.
"O'dd e'n dorcalonnus."
Yr wythnos ddiwethaf, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y gall cleifion sy'n ddigon da i gael eu rhyddhau fynd adref heb drefniadau gofal.
Fe ddaeth y neges ar ôl i feddygon ac arweinwyr iechyd ddweud fod y pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn "waeth nag erioed".
Ers hynny, mae cymdeithas feddygol BMA Cymru wedi gofyn am dro pedol ar y penderfyniad, gan nodi bod "cyfle wedi ei golli" i drafod gyda chynrychiolwyr y proffesiwn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "galw digynsail" ar y GIG wedi eu harwain at ofyn i fyrddau iechyd ryddhau pobl sydd ddim angen triniaeth, fel y gall gwelyau gael eu defnyddio gan y rheiny sydd angen mwy o ofal.
Fe ychwanegon nhw y bydd cleifion ond yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty pan fo hi'n addas yn feddygol i wneud hynny.
Dywedodd Caryl mai nhw fel teulu sydd wedi gofalu am ei mam-gu ers iddi gael ei rhyddhau o'r ysbyty.
"Yr unig beth o'n nhw'n gallu cynnig oedd bod Mam-gu'n mynd ar y waiting list gydag [elusen] Red Cross. Heblaw'r Groes Goch 'sa i'n meddwl fydde ddim byd 'da Mam-gu am wythnosau.
Ychwanegodd: "Ni 'di gorfod mynd lan o leiaf tair gwaith y dydd nawr. Diolch byth bo' ni'n byw yn agos.
"Er gwaetha'r struggle, o leia ni'n gw'bod bod gwely sbâr ar gael i rywun yn yr ysbyty."
'Ymddiheuro'
Mewn ymateb, dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Ry'n ni'n flin i glywed am brofiad Mrs Griffiths ac am y straen y byddai hyn wedi achosi iddi a'i theulu.
"Tra na allwn wneud sylw ar achos unigol, mi fydden ni'n annog y teulu i gysylltu gyda'n gwasanaeth cefnogaeth i gleifion all edrych ar eu pryderon.
"Mae cleifion yn profi amseroedd aros hirach o fewn ein hunedau brys ac ry'n ni'n ymddiheuro am unrhyw bryder y gallai hyn achosi."
Dywedodd y bwrdd iechyd ddydd Mercher mai dim ond cleifion sy'n ddigon da i adael yr ysbyty fyddai'n cael eu rhyddhau.
Dyna ddywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad yr wythnos diwethaf hefyd, gan ddweud fod y gwasanaeth iechyd yn wynebu "galw digynsail y gaeaf hwn" wrth ymateb i achosion ffliw a Covid.
"Rydym wedi gofyn i fyrddau iechyd ganolbwyntio ar ryddhau'r rhai nad oes angen gofal ysbyty arnynt mwyach yn ddiogel," meddai llefarydd.
"Mewn rhai achosion gallai hyn olygu derbyn gofal yn y cartref, ac rydym wedi gofyn i deulu ac anwyliaid helpu lle bo modd, i ryddhau gwelyau i bobl sydd angen gofal brys."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2023