Brwydr parafeddygon i leihau'r pwysau ar unedau brys

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Carwyn Lewis: "Ni'n llawn egni" ond gweithio'n "fflat owt"

Mae ystadegau diweddar yn awgrymu fod 70% yn llai o gleifion sy'n cael eu hasesu gan uwch-barafeddyg yn cael eu cludo i unedau brys o'i gymharu â'r rhai sy'n cael eu hasesu gan griwiau ambiwlansys arferol.

Y gred yw bod y cyfraniad hwn wedi bod yn hollbwysig yn ystod gaeaf lle bu lefel digynsail o alw ar y gwasanaeth iechyd.

Nod Llywodraeth Cymru yw cynyddu'r niferoedd o uwch-barafeddygon.

Ein gohebydd Iechyd Owain Clarke gafodd wahoddiad i ddilyn uwch-barafeddygon yn Sir Gaerfyrddin wrth iddynt ymdrechu i gadw cleifion yn eu cartrefi.

Fel uwch-barafeddyg mae Carwyn Lewis wedi gweithio drwy sawl gaeaf caled.

Ond mae'r pwysau arno fe ac ar y gwasanaeth ambiwlans yn gyffredinol yn ystod yr wythnosau diweddar, meddai, wedi bod gymaint yn waeth nag o'r blaen.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carwyn Lewis fod y pwysau ar y gwasanaeth llawer yn waeth nag o'r blaen

"Beth sy'n wahanol eleni yw oherwydd bod cymaint o ambiwlansys yn gorfod sefyll y tu fas i ysbytai bron bob dydd, does dim siawns gyda ni ddala lan gyda'r galw," meddai.

"Ni'n clywed am bobl yn cwympo yn y nos ac erbyn y bore ma' nhw wedi mynd yn really sâl a bron marw oherwydd does neb yn gallu mynd aton nhw."

Pan ymunes i â Carwyn yn ei gerbyd ymateb cyflym - ges i gyfle i brofi'r effaith mae'r pwysau a'r oedi yn ei gael.

Roedd Carwyn yn ymateb i alwad lle roedd gŵr yn ei 60au wedi cwympo yn ei gartref ac wedi bod yn aros ar y llawr am oriau lawer erbyn i Carwyn ei gyrraedd.

"Mae'n ddau o'r gloch y prynhawn nawr, ac mi gwympodd y claf tua chwech o'r gloch neithiwr, felly ma' fe 'di bod ar y llawr drwy'r nos a drwy'r bore," meddai Carwyn.

"Oherwydd eu bod nhw wedi bod ar y llawr am siwd gymaint o amser heb symud... ma' hwnna'n gallu achosi niwed i'r arennau.

"A'r ymateb arferol yw i fynd â'r cleifion yma yn syth i'r ysbyty."

'Aros oriau maith'

Ond mae Carwyn yn gwybod yn iawn, pe bai hynny'n digwydd, y tebygolrwydd yw y byddai'r claf yn gorfod aros oriau maith eto yn sownd mewn ambiwlans tu fas i uned frys.

Felly ar ôl siarad dros y ffôn a thîm o arbenigwyr iechyd a gofal mae Carwyn yn penderfynu ar gynllun gwahanol.

"Ma'r nyrsys yn mynd i ddod mas i'r tŷ i roi prawf gwaed i'r claf i checkio oes niwed i'r kidneys," meddai.

Yn y cyfamser, mae Carwyn yn gallu defnyddio'i sgiliau ychwanegol i roi cyffuriau gwrthfiotig i'r claf.

Felly am y tro, o leiaf does dim rhaid i'r claf fynd i'r ysbyty.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Indeg Jameson yn rhan o dîm o arbenigwyr yn cynnig cefnogaeth o ganolfan yn Llanelli

Y cam nesaf i Carwyn oedd siarad â thîm sy'n gweithio yn Llanelli.

Mewn swyddfa uwchben bwyty yng nghanol y dref mae meddyg teulu o'r bwrdd iechyd yn eistedd drws nesaf i nyrsys arbenigol.

Mae therapyddion a gweithwyr cymdeithasol yn eistedd wrth y ddesg drws nesaf.

Mae'r staff yma yn ceisio asesu'r galwadau i weld os oes modd defnyddio'u sgiliau i gynnig gofal i gleifion Sir Gâr yn eu cartrefi yn hytrach na mynd i'r ysbyty.

Mae'r tîm hefyd yn ceisio, lle bo modd, rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol i ddychwelyd cleifion adref yn gynt o'r ysbyty.

"Wrth gwrs ma' pobl yn ffonio 999 pan y'n nhw mewn creisis," meddai Indeg Jameson, ffisiotherapydd sydd wedi chwarae rhan flaenllaw yn sefydlu'r tîm.

"Ond o gael ein cyd-leoli ma' pawb yn gallu siarad â'i gilydd i weld os gallwn ni helpu.

"Rhwng Hydref ac Ionawr y'n ni 'di llwyddo i gadw bron 400 o gleifion mas o Ysbytai Tywysog Philip, Glangwili, Dyffryn Aman a Llanymddyfri.

"Felly 400 yn llai o bobl yn y gwelyau hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sam Davies yn cydnabod fod y pwysau ar y gwasanaeth wedi bod yn anodd

Aelod allweddol arall o'r tîm yw'r parafeddyg arbenigol Sam Davies - sy'n cydweithio'n agos gyda Carwyn.

"Y bore 'ma ni 'di cael galwad gan ŵr yn ei 80au oedd adre gyda urine infection sy'n golygu fod gwres 'da fe, a dyw e ddim yn gallu mynd i'r tŷ bach. Mae e' bach yn confused a ffaelu cerdded," meddai

"Fel arfer byddai dim opsiwn ond mynd fe i A&E, ond y'n ni wedi cael tîm draw ato fe ac y'n ni wedi gallu rhoi antibiotics i wella fe adref."

Gwasanaeth dan bwysau

Ychwanegodd: "Cyn i ni weithio fel hyn, yn Sir Gaerfyrddin roedd 70% o'r galwadau roedd parafeddygon ac ambiwlans yn mynd mas i yn mynd i unedau brys a 30% i wasanaethau eraill.

"Nawr ni wedi flippio'r rhifau a 30-40% yn mynd i'r ysbytai a 70% i wasanaethau eraill."

Ond er y llwyddiant yma a holl ymdrechion y tîm, mae Sam yn cydnabod fod y pwysau ar adegau'r gaeaf yma wedi bod yn drech na nhw.

"Mae'n torri calon rhywun i ddod mewn ar fore dydd Llun a gweld fo rhywun yn eu 80au neu 90au wedi bod yn aros dros 24 awr yn barod am ambiwlans.

"Y'n ni gyd yn gwneud y swydd yma i helpu pobl ac mae'n anodd gweld pobl yn dioddef fel yna. Ni eisoes yn flat-out."

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n cynyddu nifer y parafeddygon arbenigol, ac allan yn y gymuned mae Carwyn yn ymateb i alwad arall lle mae claf wedi cwympo.

Menyw yn ei 70au y tro hwn sydd wedi anafu ei phen.

Ac ar ôl asesiad trylwyr, unwaith eto mae Carwyn yn penderfynu nad oes angen iddi fynd i'r ysbyty.

"Fi'n ddigon hapus bod pethe'n ok. Mae'r teulu ar y ffordd, 'na i gyd sydd angen yw iddyn nhw gadw golwg arni hi."

Dyma enghraifft o'r gwaith sy'n cael ei gyflawni i geisio lleddfu rhywfaint o'r pwysau ar yr ysbytai mawr a gostwng nifer yr ambiwlansys sy'n ciwio y tu allan iddyn nhw, wrth geisio cynnig y gofal mwyaf addas i gleifion.

Ond er brwdfrydedd pobl fel Carwyn a'i gydweithwyr y pryder yw eu bod nhw'n brwydro yn erbyn y llif.

"Mae'r tîm yn llawn hyder, mo'yn gweithio pethe mas a 'neud y gorau i bobl, ond yn y chwe mis ers i fi fod yn rhan o'r tîm y'n ni wedi cyrraedd ein capasiti, ni'n flat-out, a ma' hwnna'n neud e'n anodd," meddai.

"Oherwydd os oes dim gwasanaethau eraill i gael ma' pobl yn cwympo nôl ar y gwasanaeth 999."

Beth yw uwch-barafeddyg?

Parafeddygon ydyn nhw sydd â chymwysterau a sgiliau ychwanegol.

Yn aml fe welwch chi nhw yn gweithio mewn cerbydau ymateb cyflym ond hefyd yn gweithio ar batrwm cylch mewn meddygfeydd a chanolfannau gofal cymunedol.

Maen nhw wedi derbyn hyfforddiant ychwanegol i ymateb i alwadau 999 a gwneud penderfyniadau clinigol am achosion mwy cymhleth, er enghraifft, drwy adolygu meddyginiaeth.

Mae rhai hefyd yn gymwys i ragnodi meddyginiaethau.

Mewn nifer o fyrddau iechyd, mae uwch-barafeddygon yn gweithio'n agos gyda thimau aml-ddisgyblaeth er mwyn ymgynghori o bell i alwadau 999, a lle bo angen, cyfeirio cleifion at wasanaethau amgen mewn ymdrech i osgoi mynd i'r ysbyty'n ddiangen.

Nod Llywodraeth Cymru yw cynyddu eu niferoedd.

Ar hyn o bryd mae 69 o uwch-barafeddygon yng Nghymru, yn cynnwys 30 sy'n gallu rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn.

Mae 50 o fyfyrwyr hefyd yn cael eu hyfforddi.

Pynciau cysylltiedig