Llythyr Owain Glyndŵr yn 'brofiad emosiynol' i Mark Drakeford
- Cyhoeddwyd
Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn "brofiad eithaf emosiynol" i weld llythyr a ysgrifennwyd gan Owain Glyndŵr dros 600 mlynedd yn ôl.
Yn ystod ymweliad â Ffrainc, bu'r Prif Weinidog yn gweld Llythyr Pennal yn archifau cenedlaethol Ffrainc ym Mharis.
Cafodd y llythyr ei ysgrifennu gan Owain Glyndŵr ym Mhennal yn 1406 a'i anfon i'r Brenin Charles VI o Ffrainc.
Dywedodd Mark Drakeford ei bod hi'n "brofiad ffantastig i weld dogfen allweddol yn hanes Cymru".
"Roedd yn hollol anhygoel i fod yno gyda'r ddogfen ei hun, fel y byddai pobl wedi'i weld 600 a mwy o flynyddoedd yn ôl," meddai.
"Ac mewn ffordd roedden i heb ei ddisgwyl, roedd yn brofiad eithaf emosiynol i feddwl eich bod yn bresennol yn yr ystafell gyda dogfen a oedd yn ganolog i hanes Cymru, ac oedd yn ddarn o beth roedd yn ei olygu i fod yn Gymry, ac roedden i'n wir ddiolchgar i'r awdurdodau Ffrengig.
"Beth mae'n ei olygu i mi yng Nghymru heddiw yw ein bod yn genedl Ewropeaidd bryd hynny, ac mae'r perthnasau yna'n parhau i fod yn bwysig iawn i ni yn amgylchiadau'r Gymru gyfoes."
Yn y llythyr roedd Owain Glyndŵr yn amlinellu ei gynlluniau am Gymru annibynnol, gan ddweud y byddai'n fodlon cydnabod Benedict XIII fel y Pab er mwyn ennill cefnogaeth Ffrainc.
Roedd hefyd yn sôn am ei obaith i sefydlu eglwys annibynnol a dwy brifysgol yng Nghymru.
Cafodd y llythyr ei ysgrifennu yn 1406, yn dilyn chwe blynedd o wrthryfel Owain Glyndŵr yn erbyn rheolaeth Lloegr.
Roedd wedi bod yn gymharol lwyddiannus wrth ennill brwydrau yn gynharach yn y gwrthryfel, ac roedd y llythyr yn rhan o ymgais i sicrhau rhagor o gefnogaeth o'r cyfandir.
Ond o fewn ychydig flynyddoedd roedd y gwrthryfel ar ben, a Glyndŵr wedi ffoi i guddio rhag cael ei ddal gan y Saeson.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2022
- Cyhoeddwyd16 Medi 2021