Beth ydych chi'n wybod am Owain Glyndŵr?
- Cyhoeddwyd
Gan ei bod hi'n Ddiwrnod Owain Glyndŵr, a sawl stori anghredadwy amdano, mae Cymru Fyw wedi penderfynu gwahanu'r gwir o'r gau am ei fywyd.
Dyma naw 'ffaith' am hanes Owain Glyndŵr, ond ydych chi'n gallu gwahaniaethu'r gwir o'r gau am y Cymro olaf i fod yn Dywysog ar Gymru?
1. Lladdwyd Hywel Sele, un o gefnogwyr Owain Glyndŵr, gan bêl ganon, wrth amddiffyn Castell Aberystwyth.
Anghywir
William Gwyn ap Rhys Llwyd oedd y person a laddwyd gan bêl ganon yn Aberystwyth yn 1408.
Ceisiodd Hywel Sele lofruddio Glyndŵr yn Nannau yn 1401 - ond roedd Owain wedi llwyddo i'w ladd ac yna cuddio ei gorff mewn coeden.
2. Anfonodd Brenin Ffrainc fyddin i gefnogi Glyndŵr yn 1405.
Cywir
Anfonodd Siarl VI, Brenin Ffrainc, fyddin o dros 2500 o filwyr i gefnogi Glyndŵr yn ei wrthryfel.
Fe lanion nhw yn Aberdaugleddau ym mis Awst 1405 ac ymladd gyda byddin Owain trwy dde Cymru ac ar draws y ffin i mewn i Loegr cyn belled â Chaerwrangon.
3. Newidiodd Owain Glyndŵr faner Gwynedd i'w ddefnyddio fel ei arfbais.
Anghywir
Owain Lawgoch, un o ddisgynyddion Tŷ Gwynedd, a newidiodd y faner yn ôl pob sôn.
Defnyddiwyd y faner wrth ymladd dros y Ffrancwyr yn erbyn y Saeson yn y 1370au. Newidiwyd y pedwar llew fel eu bod yn ymosodol (yn sefyll ar un droed gefn gyda thri troed yn yr awyr) - yn lle'n amddiffynnol (cerdded gyda thair troed ar y ddaear a dim ond y droed flaen dde wedi'i chodi).
4. Brwydrodd Owain Glyndŵr yn erbyn byddin Lloegr a Richard II ar ei ymgyrch yn erbyn yr Alban.
Anghywir
Roedd Glyndŵr yn rhan o fyddin Richard II yn ystod ei ymgyrch i'r Alban.
Fel uchelwr (roedd Owain yn Arglwydd Cynllaith a Glyndyfrdwy) roedd yn rhaid iddo gasglu milwyr ac ymladd yn enw Brenin Lloegr pan fo angen.
5. Yn 1403, llosgodd Henry V gartrefi Glyndŵr yn Sycharth a Glyndyfrdwy i'r ddaear.
Cywir
Ym mis Mai 1403, dinistriodd Tywysog Harri a'i ddynion blasty Glyndŵr yn Sycharth, ac yna ei fwthyn hela yng Nglyndyfrdwy. Cafodd y tir o gwmpas ei ddifetha hefyd, a lladdwyd nifer o gefnogwyr Owain.
6. Curodd byddin Glyndŵr 1,500 o Saeson gyda dim ond tua 120-500 o filwyr.
Cywir
Ym Mehefin 1401, trechodd byddin fach Glyndŵr fyddin y Saeson mewn brwydr enwog ar Fynydd Hyddgen. Gan fod milwyr y Saeson wedi gwisgo arfau trwm, roedd corsydd y mynydd yn gwneud symud yn anodd iddynt.
Lladdwyd dros 200 o'r Saeson a chafodd y rhan fwyaf o'r gweddill eu dal fel carcharorion.
7. Ysgrifennodd y bardd, Iolo Goch, gerdd ryddiaith enwog am gartref Glyndŵr yn Harlech.
Anghywir
Ysgrifennodd Iolo Goch gerdd am gartref Glyndŵr yn Sycharth. Ni wnaeth Owain Gastell Harlech yn gartref iddo tan 1404, a bu farw Iolo ychydig flynyddoedd ynghynt.
8. Astudiodd Glyndŵr y gyfraith ac roedd yn rhugl mewn pedair iaith.
Cywir
Astudiodd Glyndŵr fel prentis yn y Gyfraith yn Inns of Court yn Llundain am nifer o flynyddoedd ac roedd yn rhugl yn y Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg a Lladin.
Cafodd ei gymryd o dan adain Syr David Hanmer, cyfreithiwr amlwg a thad-yng-nghyfraith Owain yn y dyfodol.
9. Bu farw Glyndŵr a'i fab hynaf, Gruffudd, yn Nhŵr Llundain rywbryd tua 1415.
Anghywir
Cipiwyd Gruffudd ym mrwydr Pwll Melyn yn 1405, ac fe'i cadwyd yn Nhŵr Llundain o hynny hyd ei farwolaeth tua 1412.
Yn 1409, ymunodd ei fam, dwy o'i chwiorydd a thair nith, â Gruffudd yn y Tŵr, a bu farw pob un ohonynt yno hefyd cyn 1413.
Ni ddaliwyd Glyndŵr erioed gan y Saeson ond credir iddo farw yn nhŷ un o'i ferched ym mis Medi 1415.