Pum lle sy'n dweud stori Owain Glyndŵr
- Cyhoeddwyd
Tra bo' Caerdydd yn paratoi at ymweliad cyntaf Charles III â Chymru fel Brenin, mae hanes Owain Glyndŵr, y Cymro olaf i ddal teitl Tywysog Cymru yn parhau'n y tir.
 hithau'n Ddiwrnod Glyndŵr ar 16 Medi, Dr Ywain Tomos sydd wedi dewis pum lle sy'n dweud stori wrthryfelgar Owain Glyndŵr.
Llys Sycharth
Cyfansoddodd y bardd Iolo Goch gerdd am Sycharth, un o brif gartrefi Owain ac, yn ôl pob tebyg, gartref ei blentyndod. Yn y gerdd mae'n canmol y croeso a'r lletygarwch a gaed yno. Roedd y tŷ wedi'i leoli ar safle mwnt Normanaidd yn Llansilin, Sir Ddinbych, ger afon Cynllaith. Byddai llys Owain wedi bod yn adeilad o bren, gyda tho teils a ffos o'i amgylch. Yn ôl y gerdd, roedd yno naw neuadd, pedair ystafell wely, ac eglwys wedi'i gwyngalchu. Roedd pyllau pysgod, gwinllan, perllan, peunod, garanod, cwningod a cheirw yn darparu bwyd a diod o'r ansawdd gorau.
Cafodd y llys ei losgi ym 1403 gan y Tywysog Hal, a ddaeth yn Harri V, a bellach y mwnt yn unig sydd ar ôl, er bod olion ffermio o'r oesoedd canol i'w gweld mewn caeau gerllaw. Fodd bynnag, mae cerdd Iolo yn cynnig cipolwg prin ar fywyd breintiedig a diwylliedig Owain a'i deulu cyn y gwrthryfel. Cloddiwyd safle Sycharth gan Douglas Hague a cyhoeddwyd ei adroddiad yn Archaeologia Cambrensis cyfrol 115 (1966).
Mwnt Glyndŵr
Mae'r mwnt hwn, gyda ffos ar wahân, wedi'i leoli ar safle cadarn yn edrych dros afon Dyfrdwy rhwng yr A5 a Rheilffordd Llangollen yng Nglyndyfrdwy, yn hen sir Feirionnydd. Er bod teithwyr Oes Fictoria yn galw'r castell yn 'Glyndŵr's Mount', mae'n debygol o fod yn safle castell cynharach a oedd yn gwarchod dyffryn Dyfrdwy.
Mae'n debyg bod llys Owain Glyndŵr yn sefyll tua 180m i'r dwyrain o'r mwnt lle y ceir olion ffos. Yn y fan hyn, yn ôl un ffynhonnell Gymreig, ar 16 Medi 1400, yn dilyn ffrae chwerw gyda Reginald de Grey, Arglwydd Rhuthun dros dir, cyhoeddodd Owain ei fod yn Dywysog Gymru.
Dyma gychwyn ei wrthryfel cenedlaethol yn erbyn coron Lloegr. Fel y digwyddodd yn Sycharth, llosgwyd y tŷ yn ulw ym 1403 gan y Tywysog Hal, Brenin Harri V wedi hynny.
Brwydr Hyddgen
Ym mis Mehefin 1401, roedd byddin Owain Glyndŵr o ryw 500 o filwyr yn wynebu byddin lawer mwy, yn cynnwys milwyr Cymreig o Sir Benfro a oedd yn cefnogi brenin Lloegr. Er gwaethaf y gwahaniaeth mewn niferoedd, enillodd Glyndŵr fuddugoliaeth ysgubol.
Nid yw union safle'r frwydr yn hysbys, ond yn ôl traddodiad roedd yn Hyddgen, man anghysbell i'r gorllewin o Bumlumon yng Ngheredigion. Tir mynyddig, corsiog iawn a geir yma, felly roedd yn le addas ar gyfer strategaeth Owain o dynnu'r gelyn i diriogaeth anghyfarwydd cyn i'w saethwyr ymosod arnynt.
Mae'n debyg bod ei wersyll yn Siambr Trawsfynydd gerllaw, y mae traddodiad yn ei gysylltu â Glyndŵr. Dywedir bod dwy garreg, a elwir yn 'Gerrig Cyfamod' yn nodi safle'r frwydr, er nad oes tystiolaeth uniongyrchol o hynny. Dywedir i'r meirw gael eu claddu mewn lle a elwir yn Esgair y Ffordd. Dangosodd y fuddugoliaeth fod Owain bellach yn ŵr pwerus o bwys, ac yn sgil ei lwyddiant fe gynyddodd ei gefnogaeth trwy Gymru.
Brwydr Bryn Glas (Pilleth)
Ar ôl ei lwyddiant ym mrwydr Hyddgen, cyfarfu Glyndŵr a'i gefnogwyr unwaith eto â byddin coron Lloegr o dan arweiniad Syr Edmund Mortimer. Digwyddodd hyn ym Mhyllalai, ger Llanandras yn yr hen sir Faesyfed, ar 22 Mehefin 1402. Fe'i gelwir yn Frwydr Bryn Glas.
Unwaith eto, roedd byddin Owain yn llai o lawer, a cheisiodd Mortimer ei ddenu i ymladd. Er nad oes llawer o adroddiadau ar ôl, ymddengys i saethwyr Owain gael y gorau ar filwyr Mortimer a bod rhai saethwyr Cymreig ym myddin Lloegr wedi newid ochr er mwyn cefnogi Glyndŵr.
Bu Owain yn cuddio'i filwyr wrth ochr y bryn cyn ymosod yn llwyddiannus ar fyddin Lloegr o'r tu ôl. Cipiwyd Mortimer ei hun yn y frwydr a gofynnodd Owain i'r Brenin Harri am bridwerth amdano, ond gwrthododd hwnnw ei dalu. Fe gythruddwyd Edmund Mortimer i'r fath raddau gan hyn nes iddo nid yn unig newid ochr, ond priodi â Catrin, merch Owain, gan greu cynghrair teuluol.
Cryfhaodd y fuddugoliaeth wrthryfel Owain Glyndŵr, am gyfnod o leiaf. Dywedir bod bedd torfol ym Mryn Glas a gerllaw mae eglwys Normanaidd y Santes Fair a oedd yn sefyll adeg y frwydr.
Senedd-dy Owain Glyndŵr, Machynlleth
Erbyn 1404, roedd Owain Glyndŵr wedi ennill cefnogaeth o bob rhan o Gymru a galwodd senedd gyntaf Cymru ym Machynlleth, Powys. Roedd gan lawer o Gymry gwynion yn erbyn tirfeddianwyr o Loegr a oedd wedi cipio tir a oedd gynt yn eiddo i deuluoedd Cymreig. Roedd y cyfarfod nid yn unig yn cynnwys cynrychiolwyr o gymunedau Cymreig ond hefyd cynrychiolwyr o'r Alban, Ffrainc a Chastîl yn Sbaen.
Coronwyd ef yn Dywysog Cymru o flaen ei gefnogwyr, gan gynnwys Esgobion Bangor a Llanelwy. Ym 1404, roedd Machynlleth eisoes yn dref farchnad bwysig yng nghanolbarth Cymru. Yn ôl traddodiad lleol fe gynhaliwyd y seremoni goroni mewn adeilad canoloesol sy'n dal i sefyll ar Heol Maengwyn. Er bod coed to'r hen Senedd-dy yn dyddio i ychydig yn hwyrach, tua c.1470, mae'n debyg bod y safle ei hun yn hŷn, a gallai felly fod yn lleoliad senedd 1404.
Ym 1912, adferwyd y neuadd ac ychwanegwyd canolfan ar gyfer y dref gan yr Arglwydd Davies, ŵyr i David Davies, y diwydiannwr cyfoethog o Landinam. Yn yr adeilad ceir cofeb i Owain Glyndŵr ar ffurf murlun mawr o frwydr Hyddgen gan Murray Urquhart - mae gan Glyndŵr wyneb yr Arglwydd Davies! Heddiw, mae arddangosfa hynod ddiddorol am Owain Glyndŵr yn y ganolfan ynghyd ag ystafelloedd cyfarfod a chaffi.
Gyda diolch i Gomisiwn brenhinol Henebion Cymru, dolen allanol a Coflein., dolen allanol
Hefyd o ddiddordeb: