Y Bencampwriaeth: Gohirio gêm Caerdydd oherwydd glaw trwm

  • Cyhoeddwyd
Glaw trwm yn Stadiwm New YorkFfynhonnell y llun, Rex Features

Cafodd gêm Caerdydd yn Rotherham ei gohirio yn y 48fed munud oherwydd glaw trwm wnaeth olygu bod ddim modd parhau i ddefnyddio'r cae.

Roedd Caerdydd ar y blaen o 1-0, gyda gôl gan Jaden Philogene yn y bumed munud, cyn i'r dyfarnwr benderfynu gohirio'r gêm.

Mae Caerdydd wedi gweld gwelliannau mawr o dan y rheolwr newydd Sabri Lamouchi, ac roedd y gêm yn erbyn Rotherham yn gyfle iddynt symud i fyny'r yn gynghrair, i ffwrdd o safleoedd y cwymp.

Ond wedi i'r tywydd daro yn ystod yr egwyl, bu'n rhaid dod â'r gêm i stop.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gêm ei gohirio yn y 48fed munud

Dywedodd Rotherham mewn datganiad y bydd y penderfyniad i ohirio'r gêm nawr yn cael ei adolygu gan y gynghrair.

"Fe wnaeth y dyfarnwr Oliver Langford atal y chwarae i ddechrau er mwyn rhoi cyfle i ddraenio'r cae," meddai'r clwb.

"Ond yn dilyn cyfnod yn yr ystafell newid, doedd y cae heb glirio ac ar ôl cael ei archwilio ymhellach, penderfynwyd galw'r gêm i ffwrdd."

Mae'n debyg bod Caerdydd yn anhapus fod y gêm wedi ei gohirio, gyda'r tîm 1-0 ar y blaen wedi i'w cefnogwyr deithio yr holl ffordd i ogledd Lloegr ar gyfer yr ornest.

"Bydd mwy o fanylion yn dilyn yn y man," meddai Caerdydd mewn datganiad ar eu gwefan.