Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-0 Bristol City
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth goliau gan Liam Cullen ac Olivier Ntcham sicrhau buddugoliaeth gyntaf mewn saith gêm i Abertawe brynhawn Sul.
Yn dilyn rhediad gwael diweddar yn y Bencampwriaeth, llwyddodd yr Elyrch i gadw llechen lân am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr wrth drechu Bristol City.
Bu bron iddyn nhw gael y dechrau perffaith wedi ond 17 eiliad, wrth i ergyd Joel Piroe fflachio heibio i gôl yr ymwelwyr.
Er i'r Elyrch reoli'r meddiant yn llwyr yng nghyfnod agoriadol y gêm, cael a chael oedd hi i greu cyfleoedd clir.
Tarodd Mark Sykes ergyd i Bristol City yn syth i lawr corn gwddf golwr Abertawe Andy Fisher wedi 23 munud, wrth i'r ymwelwyr hefyd chwilio am gôl agoriadol.
Daeth Harry Darling yn agos i Abertawe gyda pheniad gafodd ei arbed gan Max O'Leary, cyn i'r golwr hefyd rwystro Liam Walsh ar yr ail gynnig.
Ond y tîm cartref aeth ar y blaen ar yr egwyl wrth i bas Olivier Ntcham ganfod Liam Cullen, gyda'r Cymro'n ergydio ar ei droed chwith i gornel isa'r rhwyd ar gyfer ei seithfed gôl y tymor hwn.
Ar ddechrau'r ail hanner fe gafodd Piroe a Cullen gyfleoedd pellach, gyda Piroe yn taro'r postyn gydag un peniad.
Ond roedd Bristol City yn dal i fygwth, gydag ergyd Omar Taylor-Clarke - yn enedigol o Gasnewydd - yn mynd yn syth at Fisher, tra bod amddiffynnwr Abertawe Ben Cabango yn lwcus i osgoi cael ei gosbi am lawio.
A gyda 13 munud yn weddill cafodd y fuddugoliaeth ei sicrhau gan Ntcham, wrth iddo droi un ffordd a'r llall yn y cwrt cosbi a tanio i gefn y rhwyd.