Cyn-blismon yn siarad am golli'i swydd o achos alcohol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Eurwyn Thomas: "Erbyn y diwedd o'n i'n alcoholig rhonc, a dwi ddim yn meindio cyfadde' hynny"

Mae cyn-blismon sy'n dweud y bu'n "alcoholig rhonc" tra'n gwasanaethu gyda Heddlu'r Gogledd wedi siarad am y tro cyntaf am ei frwydr gyda goryfed.

Mewn cyfweliad di-flewyn-ar-dafod, mae Eurwyn Thomas yn disgrifio sut iddo "ddisgyn drwy'r cracs am flynyddoedd" ac yn honni diffyg cefnogaeth yn y gweithle.

Wrth siarad gyda Cymru Fyw dywedodd: "'Nôl yn 2019 pan rois i'r gorau iddi, dwni'm sut 'swn i'n disgrifio'r help oedd ar gael - lot o lefydd, posteri ar y wal ac yn y blaen, ond mae siarad yn rhad.

"O safbwynt cymorth real, dwni'm be' oedd ar gael i mi."

Mewn ymateb dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod "yn gweithio'n galed er mwyn sicrhau bod llesiant [staff yn] gwella".

Ychwanegon nhw fod "lles ein swyddogion yn flaenoriaeth i'r gwasanaeth".

Mae arolwg diweddar gan Ffederasiwn yr Heddlu yn datgelu bod 76% o swyddogion rheng flaen yn dweud bod effaith y gwaith ar eu hiechyd meddwl yn rheswm dros ystyried gadael y swydd.

'Diddiwedd, methu stopio'

Daeth gyrfa Eurwyn Thomas i ben un bore dydd Gwener yng ngwanwyn 2019.

"Mi o'n i wedi bod yn yfed yn awchus y noson gynt," meddai'r gŵr 47 oed, sy'n wreiddiol o Gaernarfon.

"Jyst diddiwedd, jyst methu stopio, a deffro'r bore wedyn yn teimlo 'does ddim byd yma i mi. Rhaid i mi fynd i 'nôl rhywbeth'.

"Mynd wedyn i'r siop leol i 'nôl mwy o ddiodydd cryf, achos erbyn hynny dim ond dyna o'n i'n yfed.

"Gefais i ddamwain - hitio cerbyd arall. Diolch i'r nefoedd cafodd neb ei niweidio, ond erbyn cyrraedd adre oedd 'na blismon yn aros amdana i."

Ffynhonnell y llun, Eurwyn Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Eurwyn Thomas ar ei isaf - dywedodd y bu'n "alcoholig rhonc" tra'n gwasanaethu gyda Heddlu'r Gogledd

Dangosodd prawf anadl bod Mr Thomas â dros dair gwaith y lefel gyfreithlon o alcohol yn ei waed.

Ymddiswyddodd o'r heddlu a chafodd ei ddedfrydu i 12 mis o waith cymunedol a'i wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd.

Wrth edrych 'nôl ar y cyfnod tywyll yma o'i fywyd, mae'n amlwg bod ei ymddygiad yn y swydd yn chwarae'n drwm ar ei feddwl.

"Dwi wedi rhoi fy hun mewn sefyllfaoedd risky. Dwi wedi rhoi perthnasoedd mewn sefyllfaoedd annymunol, a fy nghydweithwyr wrth gwrs.

"Dwi'n teimlo cywilydd ac euogrwydd mawr."

'Gallu mynd dim gwaeth'

Yn ôl Mr Thomas, pwysau'r gwaith oedd wrth wraidd ei ddibyniaeth ar alcohol.

"Ti'n mynd i'r un sefyllfaoedd yn ddyddiol. Yr un bobl, yr un damweiniau erchyll lle ti'n meddwl 'mae hyn yn mynd yn anodd rŵan'.

"Ti'n dod mewn ar ôl shifft nos brysur lle ti 'di cael dy fygwth, ble mae rhywun wedi poeri arna chdi, lle mae rhywun wedi ymosod arnat ti, a ti'n meddwl 'urgh mae fy mhen i dal i fynd a dwi'n gwbod gymra i lasiad o win'.

"Dros y misoedd, dros y blynyddoedd, mae'r glasiad yna o win yn troi'n fotel, ac mae'r fotel yna wedyn yn troi'n ddwy fotel, ac wedyn ti'n newid dy fotel i fod yn rhywbeth sylweddol gryfach.

"Oedd fy mywyd i ddim yn gallu mynd dim gwaeth. Erbyn y diwedd o'n i'n alcoholig rhonc, a dwi ddim yn meindio cyfadde' hynny."

Ffynhonnell y llun, Eurwyn Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Daeth gyrfa Eurwyn Thomas gyda'r heddlu i ben yn 2019

Er nad oedd Heddlu'r Gogledd yn gallu gwneud sylw ar achos unigol Mr Thomas, fe ddywedodd Jenny Parry, pennaeth pobl a datblygiad sefydliadol y llu: "Mae lles ein swyddogion yn flaenoriaeth i'r gwasanaeth.

"Rydym yn deall bod ein swyddogion yn wynebu sefyllfaoedd heriol iawn bob dydd, yn cynnwys marwolaethau sydyn, damweiniau ffyrdd angheuol ac ymchwiliadau i gam-drin plant.

"Ers mis Awst 2019 mae gennym dîm llesiant ymroddgar sy'n cael ei arwain gan nyrs iechyd meddwl yn cynnig ystod eang o atebion ymarferol i gefnogi swyddogion a staff, yn cynnwys sgrinio seicolegol, ôl-drafod ar ôl digwyddiadau, cwnsela, ystafelloedd noddfa a chaplaniaid gwirfoddol.

"Rydym yn gweithio'n galed er mwyn sicrhau bod llesiant wedi gwella dros y blynyddoedd diweddar, gan ein bod yn gweld hyn fel rhywbeth hanfodol i gynnal gweithlu iach mewn cyfnod sy'n mynd yn fwy anodd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eurwyn Thomas bellach yn sobor, ar ôl treulio cyfnod mewn canolfan adfer ger Caerdydd

Un sy'n cydnabod bod gwendidau wedi bodoli yng ngofal llesiant yn y gorffennol yw'r cyn-Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones.

"Roedd adolygiad 'nôl yn 2018/19 ble ddaru ni benderfynu bod angen gwella ansawdd y cynnig oedd gennym ni i bobl yn diodde' gyda'u hiechyd meddwl," meddai.

"Dwi ddim yn meddwl bod hi'n hawdd cael y cyngor oherwydd bod yna dipyn o restr aros er mwyn cael y cyngor oedd ar gael ar yr adeg hynny.

"Dwi'n cymryd bod y gwasanaeth wedi gwella lot i be' oedd o bum mlynedd yn ôl, ond wrth gwrs, dwi heb fod yna ers dwy flynedd felly alla i ddim dweud yn bendant."

Ffynhonnell y llun, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Arfon Jones yn dweud bod o'n "anoddach i rywun gydnabod problem o fewn yr heddlu oherwydd natur y gwasanaeth."

Yn ôl Mr Jones mae diwylliant y swydd hefyd yn gallu ei gwneud hi'n anodd i swyddogion mewn sefyllfa debyg i un Eurwyn Thomas droi am help.

"Dwi'n meddwl bod o'n anoddach i rywun gydnabod problem o fewn yr heddlu oherwydd natur y gwasanaeth," meddai.

"Dwi'n meddwl bod yna gywilydd a stigma o'i gwmpas o i swyddogion ddod ymlaen a chyfadde' bod ganddyn nhw broblem, a dwi'n meddwl bod hwn yn wir yn yr achos yma."

Morâl yn isel

Mae adroddiad Cyflog a Morâl diweddar gan Ffederasiwn yr Heddlu yn datgelu bod morâl ymysg swyddogion rheng flaen y gogledd yn isel.

Mae'n datgelu bod 86% o swyddogion a gafodd eu holi wedi profi teimlo dan bwysau, neu wedi profi iselder neu orbryder oherwydd y swydd yn y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ogystal â hyn mae 76% o swyddogion y gogledd yn dweud bod effaith y gwaith ar eu hiechyd meddwl yn reswm dros ystyried gadel y swydd.

Mewn erthygl yng nghylchgrawn y ffederasiwn, Your Voice, mae'r Sarjant Rob Jones - cynrychiolydd gweithle'r ffederasiwn yng ngogledd Cymru - yn dweud: "Dylai archwiliadau meddygol rheolaidd gynnwys iechyd meddwl swyddogion.

"Mae angen i Sarjantiaid fod yn ymwybodol o arwyddion effeithiau pwysau gwaith ac mae angen i swyddogion fod yn agored ac onest am eu hiechyd meddwl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eurwyn Thomas bellach wedi cychwyn bywyd newydd yn y brifddinas

Wynebu'r dyfodol

Mae Eurwyn Thomas bellach yn sobor. Fe dreuliodd gyfnod mewn canolfan adfer ger Caerdydd, ac mae wedi cychwyn bywyd newydd yn y brifddinas.

Mae'n cyfadde' nad oedd y siwrne yn un hawdd.

"Mi fyswn i yn dweud celwydd petawn i'n d'eud fod popeth 'di bod yn OK, popeth 'di bod yn grêt, a bod 'na ddim teimladau 'di codi o isio codi gwydriad o ddiod," meddai.

"Mae 'na gyfnodau 'di bod - cyfnodau reit isel.

"Mae'r onus felly arna fi i guradu fy nghwmni fy hun, be' sy'n gweithio i fi ac yn y blaen. So mae bob dim, fel maen nhw'n dd'eud, yn work in progress ac mae bob dim yn OK.

"Dwi'n teimlo euogrwydd mawr ond dwi wedi dod i delerau efo'r euogrwydd yna, a'r cywilydd yna, achos ar derfyn y dydd, os na alla i faddau i fi'n hun, sut alla i ddisgwyl i bobl eraill faddau i mi am y pethau dwi 'di rhoi nhw drwyddo dros y blynyddoedd?"