Marwolaethau alcohol: 'Golwg y diawl arno erbyn y diwedd'

  • Cyhoeddwyd
Aled Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Aled Hughes o Ben Llŷn yn 39 oed, o ganlyniad i alcoholiaeth

Bu farw mwy o bobl nag erioed yng Nghymru yn 2021 o ganlyniad i alcohol, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau.

Dangosodd ffigyrau ar gyfer y llynedd bod 472 o farwolaethau yn gysylltiedig ag alcohol, a'r cynnydd yn bennaf ymhlith dynion.

O'i gymharu â 2019 - y flwyddyn olaf cyn Covid - mae marwolaethau cysylltiedig ag alcohol yng Nghymru bellach wedi cynyddu 28.3%.

Mae hefyd yn golygu bod cyfradd Cymru o 15 marwolaeth am bob 100,000 o bobl yn uwch na chyfartaledd y DU.

Fe gollodd Linda, Carys a Wendy Hughes o Sarn Mellteyrn, Pen Llŷn, eu brawd Aled Hughes yn 2000 o ganlyniad i alcoholiaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan chwiorydd Aled Hughes (ail o'r dde) atgofion da ohono cyn i alcoholiaeth afael ynddo ac achosi ei ddirywiad

Roedd yntau ond yn 39 oed ar y pryd, ac mae'r chwiorydd nawr yn awyddus i rannu profiad eu teulu nhw er mwyn ceisio helpu eraill allai fod yn wynebu sefyllfa debyg.

"Yn y cychwyn doedd o ddim yn gweld y peryg, dwi'm yn meddwl, a doedd dim ots ganddo fo," meddai Linda wrth Newyddion S4C.

"Roedd golwg y diawl arno fo [erbyn y diwedd] - pwy 'sa isio gweld neb fel 'na -eu brawd o bawb.

"Ond oedd o fath â hen ddyn, roedd o fel rhywbeth allan o horror film."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Linda, Wendy a Carys Hughes eu bod fel teulu wedi ffraeo tipyn mwy gyda'u brawd Aled tua diwedd ei oes

Roedd gan y chwiorydd atgofion melys o fod yn "ffrindiau mawr" gydag Aled yn ystod eu plentyndod, ond wrth i'r alcoholiaeth afael ynddo, mae Carys yn cofio mwy ar y "ffraeo a'r cega".

"Mi oedd hi 'di mynd yn diwedd, mae'n g'wilydd i mi ddeud, ond fedrwn i'm 'neud efo fo, ac mae hynna'n sobor o beth i dd'eud," meddai.

"Mi ffraeon ni tan y funud dwytha' jyst iawn. Doedd o'm yn Aled. Doedd o'm fatha'n brawd ni erstalwm."

Effaith y cyfnod clo?

Llynedd roedd 325 o'r 472 marwolaeth o ganlyniad i alcohol yn ddynion - cynnydd o 42% o'i gymharu â 2019, er mai dim ond cynnydd o 5.4% a welwyd ymhlith menywod yn yr un cyfnod.

Mae elusennau wedi mynegi pryder ein bod ni ond nawr yn dechrau gweld effaith arferion yfed rhai pobl yn ystod Covid a'r cyfnodau clo.

"Mae'n weddol amlwg dwi'n credu bo' ni'n dal i fyw i raddau yng nghysgod y pandemig," meddai Andrew Misell, cyfarwyddwr Cymru gydag elusen Alcohol Change UK.

"Roedd rhai pobl heb newid eu harferion, o'dd rhai yn yfed llai o bosib i ddiogelu eu hiechyd nhw, ond roedd rhyw draean yn yfed mwy.

"Be' sydd 'di synnu ni yw pa mor gyflym mae'r ffigyrau wedi newid.

"Ni 'di arfer sôn bod alcohol yn rhywbeth sy'n lladd rhywun dros ddegawdau, a dwi'n meddwl bod llawer ohonom ni wedi synnu gyda'r cynnydd sydyn y llynedd, ac eto eleni."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Andrew Misell fe wnaeth yfed gynyddu ymhlith rhai pobl yn ystod y pandemig

Mae Linda, Wendy a Carys Hughes yn gyfarwydd gyda gweld yr arwyddion wrth i un o'u hanwyliaid fynd drwy ddibyniaeth alcohol, ond mae atal y dirywiad yn beth arall.

"'Swn i'n gallu stopio rhywun i fynd drwy'r peth fyswn i'n 'neud, cofia. 'Swn i'n rhoi rywbeth i fedru eu stopio," meddai Linda.

Ychwanegodd Carys: "Ar ran y teulu, a'r person ei hun. Achos dim arnyn nhw yn unig mae o."

Os yw cynnwys yr erthygl yma wedi effeithio arnoch mae cymorth ar gael yma.

Pynciau cysylltiedig